Mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Materion Gwledig yr Wrthblaid - wedi croesawu “Wythnos Caru Cig Oen”, gan ddweud ei bod yn fwy hanfodol nawr nag erioed i gefnogi byd ffermio Cymru, busnesau bach a manteisio i’r eithaf ar yr hyn y mae Cymru yn ei gynhyrchu. Cynhelir yr Wythnos Caru Cig Oen rhwng 1 a 7 Medi.
Meddai Mrs Finch-Saunders:
“Mae’r gair ‘eiconig’ yn cael ei ddefnyddio’n aml, ond mae Cig Oen Cymru - sydd â statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig - yn gynnyrch eiconig o Gymru, mae’n wahanol ac mae ganddo nodweddion arbennig sy’n unigryw i Gymru ac ni ellir ei gynhyrchu yn unrhyw le arall.
“Mae’n gyfuniad o’n tirwedd hyfryd, tywydd newidiol, a ffermwyr rhagorol sy’n cynhyrchu cig cystal.
“Mae’n gynnyrch rhagorol, yn gynaliadwy, yn cyfrannu at y diwydiant cig coch y tybir ei fod werth £690 miliwn yng Nghymru, ynghyd â chefnogi’n sylwedd y 220,000 o swyddi ffermio a amcangyfrifir sy’n bodoli yng Nghymru, ac uwchlaw popeth mae’n flasus, maethlon ac amrywiol dros ben.”
Anogodd Mrs Finch-Saunders bobl ledled Cymru i ymweld â’u cigydd lleol i brynu cig oen a chael ryseitiau a chynghorion coginio nid yn unig yn ystod Wythnos Caru Cig Oen, ond gydol y flwyddyn.
DIWEDD
Ffoto: David Greenwood-Haigh/UnSplash