Croesawyd cŵn therapi a’u perchnogion i’r Senedd yr wythnos hon gan Janet Finch-Saunders, Gweinidog yr Wrthblaid dros Ofal Cymdeithasol.
Trefnwyd y digwyddiad gyda Mrs Mary Oliver MBE o Glan Conwy er mwyn ceisio gwella ymwybyddiaeth o’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan gŵn therapi, a’r effaith gadarnhaol y gallant ei chael ar fywydau pob un ohonom.
Ar ôl y digwyddiad, mae Janet yn galw ar bawb sydd â chi i ystyried gwirfoddoli gyda’r elusen Therapy Dogs Nationwide. Meddai:
“Fel rhywun sydd wrth fy modd gyda chŵn, roeddwn i ar ben fy nigon yn croesawu’r cŵn therapi i’r Senedd yr wythnos hon.
“Fe lwyddodd y cŵn i ddenu cryn sylw, ac rwy’n gobeithio bod fy nghydweithwyr ym Mae Caerdydd yn ymwybodol bellach o’r gwahaniaeth cadarnhaol y mae cŵn therapi yn ei wneud.
“Er enghraifft, mae mwytho anifail anwes yn gallu lleihau pwysedd gwaed ac mae presenoldeb anifeiliaid anwes yn gallu hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol a lleihau ymatebion seicolegol i bryder. Hefyd, mae cŵn yn helpu plant i fwynhau darllen.
“Mae cŵn therapi yn newid bywydau pobl er gwell.
“Os hoffech ymweld â sefydliadau fel ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal gyda’ch ci, beth am ystyried gwirfoddoli gyda’r elusen Therapy Dogs Nationwide?”
Notes:
I gysylltu â’r elusen, ffoniwch: 07840 994 003
Llun:
Janet Finch-Saunders AC yn ystod y digwyddiad Cŵn Therapi