Heddiw (05 Hydref), mae Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig – Janet Finch-Saunders AS – wedi croesawu'r cyhoeddiad y gallai Cig Eidion Cymreig PGI fod ar ei ffordd i UDA cyn bo hir am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd.
Yn dilyn gwaharddiad hirsefydlog UDA ar gig eidion yr UE – a gyflwynwyd yn sgil yr achosion o BSE ym 1996 – caniatawyd i gig eidion y DU gael mynediad i'r farchnad ym mis Mawrth 2020. Erbyn hyn, mae gan gynhyrchwyr cig eidion Cymreig fynediad i farchnad UDA am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd. Cyhoeddwyd yn ddiweddar hefyd fod cig oen Cymreig, cregyn gleision Conwy a Halen Môn ymhlith y 15 cynnyrch Cymreig eiconig y gellid eu diogelu yn Japan am y tro cyntaf fel rhan o'r cytundeb masnach newydd rhwng y DU a Japan.
Wrth sôn am yr effaith y bydd y newyddion hwn yn ei chael ar gynhyrchwyr cig eidion Cymreig, dywedodd Janet:
“Mae pawb yn gwybod bod cig eidion Cymreig PGI ymhlith y gorau yn y byd am ei ansawdd uchel a’i safonau diogelwch bwyd a lles. Mae gan y cynnyrch hwn nodweddion arbennig diolch i’n haer glân, ein glaswellt cyfoethog a nentydd ein mynyddoedd. Nid yw'r pethau hyn i'w cael yn unman arall.
“Gydag amcangyfrifon y gallai allforion cig eidion i UDA fod yn werth £66 miliwn dros y pum mlynedd nesaf, mae agor marchnad cig eidion UDA yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i gynhyrchwyr o Gymru, gan ganiatáu i'r sector hanfodol hwn fynd o nerth i nerth.
“Mae'r newyddion hyn yn cymeradwyo gwaith caled ffermwyr ein cenedl sydd wedi rhoi croeso brwdfrydig i gynlluniau amaeth-amgylcheddol sydd â’r nod o ddiogelu ein hamgylchedd heb ei ail. Mae cymorth i'n ffermwyr o fudd i farchnadoedd da byw lleol hefyd, gan gynnal yr economi wledig a chefnogi swyddi lleol.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru geisio sicrhau y gall ein cynhyrchwyr cig eidion fanteisio'n llawn ar y cyfle hwn yn awr. Mae hynny'n golygu mireinio'r cynllun Cymorth i Allforio, a gynigir drwy Bwyd a Diod Cymru, er mwyn hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael yn y farchnad Americanaidd bwysig hon yn well.”
DIWEDD
Ffotograff: Jez Timms/UnSplash