Yn dilyn cyhoeddiad y bydd treialon brechlyn TB yn cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr, a allai alluogi datblygiad brechlyn gwartheg erbyn 2025, mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid, wedi rhybuddio na all Llywodraeth Cymru roi ffermwyr drwy bum mlynedd arall o ofid difrifol.
Yng Nghymru, cafodd 11,392 o anifeiliaid eu lladd yn y 12 mis hyd ddiwedd mis Ebrill 2020.
Wrth roi sylwadau ar y datblygiad, dywedodd Janet Finch-Saunders:
“Mae’r treialon maes hyn yn newyddion rhagorol yn ystod argyfwng iechyd anifeiliaid parhaus mwyaf Cymru.
“Gallai brechlyn gwartheg cost effeithiol fod yn adnodd newydd pwysig i fynd i’r afael â TB buchol, ond ni ddylai’r datblygiad hwn ein dallu.
“Y realiti yw mai’r cwbl sy’n digwydd nawr yw treialon maes, ac na fydd modd cyflwyno’n fasnachol am o leiaf pum mlynedd arall.
“Er fy mod yn croesawu’r tuedd o gwymp mewn achosion, mae’n rhaid i ni gydnabod bod nifer y gwartheg a laddwyd yn y deuddeg mis hyd fis Ebrill 2020 yn uwch nag yn 2018, 2017, 2016, 2015, 2014, 2013, 2012, 2011 a 2010.
“Ydw i’n fodlon aros am bum mlynedd tra bod ffermwyr a’u teuluoedd yn wynebu difrod economaidd ac emosiynol? Nac ydw yn sicr. Mae angen pwyso a mesur pob opsiwn fel ymyriadau tymor byr i helpu ein ffermwyr.”
DIWEDD
Nodiadau: