Mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid - wedi defnyddio Wythnos Hinsawdd Cymru, a gynhelir tan 6 Tachwedd, fel cyfle i adnewyddu galwadau’r Ceidwadwyr Cymreig i ddatgarboneiddio’r economi. Ychwanegodd Mrs Finch-Saunders bod yn rhaid i’r dasg o ddod dros y pandemig ganolbwyntio ar ddatgarboneiddio.
Meddai:
“Yng nghanol y pandemig, mae’n hawdd canolbwyntio ar Covid, ond mae llawer o broblemau dwys eraill yn ein byd, yn enwedig yr amgylchedd.
“Mae newid hinsawdd ymysg heriau mawr ein hoes, ac mae ymgais ein cenedl i ddod dros Covid-19 yn cynnig cyfle heb ei ail i helpu i ysgogi creu swyddi coler werdd hirdymor a fydd yn helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau allyriadau carbon yn fwy effeithiol yn y blynyddoedd nesaf.
“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dal ati i ymgyrchu dros gynlluniau call sy’n rhoi busnesau’n gyntaf er mwyn helpu i greu swyddi a lleihau allyriadau, gan fod angen arweinyddiaeth feiddgar ac arloesol nawr yn fwy nag erioed i gynnal twf economaidd glân yn y dyfodol.”
DIWEDD