Heddiw (06 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig – wedi croesawu ymateb cadarnhaol i'w llythyr at Lywodraeth Cymru, a anogodd y weinyddiaeth i hyrwyddo gwlân Cymreig fel deunydd inswleiddio wrth uwchraddio neu adeiladu stoc dai'r genedl.
Mewn llythyr ateb, dywedodd Lesley Griffiths AS:
“Rwy'n cefnogi mwy o ddefnydd o wlân Cymreig i inswleiddio tai, cyn belled â'i fod yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu, ei fod yn gost-effeithiol a'r ateb mwyaf ecogyfeillgar, ond efallai na fydd hynny'n wir ym mhob sefyllfa.
Dyma'r diweddariad diweddaraf yn ymgyrch Adduned Gwlân Cymreig Gweinidog yr Wrthblaid, gyda'r newyddion yn cyrraedd yng nghanol 10fed Wythnos Wlân flynyddol yr Ymgyrch dros Wlân. Ddoe, tynnodd Mrs Finch-Saunders sylw at gychwyn yr wythnos o ddathlu drwy ysgrifennu at amrywiaeth o weithgynhyrchwyr a gwerthwyr i’w hannog i gefnogi’r ymgyrch.
Wrth sôn am ymateb Llywodraeth Cymru, dywedodd Janet:
“Rwy'n falch iawn bod y cais hwn gan y Ceidwadwyr Cymreig, a ofynnodd am ymrwymiad i ddefnyddio mwy o wlân ein cenedl fel deunydd inswleiddio wrth uwchraddio neu adeiladu tai'r genedl, wedi cael ymateb mor gadarnhaol gan y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd.
“O'i ddefnyddio yn y cartref, mae deunydd inswleiddio gwlân yn helpu i leihau costau ynni ac yn atal colli ynni, gan leihau allyriadau carbon. Diolch i gynnwys dŵr a nitrogen uchel y deunydd naturiol, mae gwlân yn ddeunydd gwrthdan naturiol hefyd.
“Mae sicrhau'r ymrwymiad hwn yn gychwyn gwych i Wythnos Wlân 2020, pan fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll dros ein ffermwyr ac yn hyrwyddo rhinweddau'r ffibr rhagorol hwn. Mae hyn yn cynnwys ysgrifennu at weithgynhyrchwyr deunydd gwely a chyfarfod â British Wool.
“Mae gan Aelodau Etholedig Senedd Cymru lwyfan i fynd ar drywydd polisïau sy'n rhoi buddiannau gorau ein cymunedau gwledig wrth wraidd datganoli. Drwy annog Llywodraeth Cymru i addasu ei harferion prynu, gallwn sefyll ochr yn ochr â'r bobl hynny sy'n dibynnu ar y manteision a geir gan ein ffermydd.”
DIWEDD