Heddiw (16 Medi), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi lansio ei hymgyrch dros Addewid Gwlân Cymru, gan annog Llywodraeth Cymru i ystyried gwneud defnyddio Gwlân Cymru yn orfodol mewn adeiladau domestig a chyhoeddus.
Yn ei datganiad barn gerbron y Senedd, mae Janet hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ffermwyr drwy weithredu ar unwaith i ddatblygu’r farchnad insiwleiddio gwlân ymhellach ac annog y defnydd ehangach o wlân Cymru gan y diwydiant ffasiwn. Yn gynt yn y mis, ysgrifennodd Gweinidog yr Wrthblaid at y Campaign for Wool i ofyn am gyfarfod er mwyn i swyddogion allu trafod ffordd well o hyrwyddo’r ffeibr naturiol i’r diwydiant ffasiwn cynaliadwy byd-eang.
Gan roi sylwadau ar ei hymgyrch Addewid Gwlân Cymru, dywedodd Janet:
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i ffermwyr defaid Cymru, a thrist yw clywed bod llawer o gynhyrchwyr wedi gwneud y penderfyniad anodd i losgi’r ffeibr gan fod pris gwlân wedi cwympo. Gyda hyn mewn golwg, rwyf bellach wedi cyflwyno Addewid Gwlân Cymru.
“Er fy mod yn falch o’r croeso cynnes i alwadau’r Ceidwadwyr Cymreig am i wlân ein cenedl gael ei ddefnyddio mewn adeiladau cyhoeddus, mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru
addunedu i wneud popeth o fewn ei gallu i hyrwyddo’r defnydd o wlân Cymru ar draws gwahanol ddiwydiannau.
“O ffasiwn cynaliadwy i inswleiddio’r cartref, mae Addewid Gwlân Cymru yn ffordd o gydnabod bod gwlân Cymru yn ffeibr cynaliadwy, gwrth-dân, bioddiraddadwy ac yn un o’r mathau mwyaf effeithiol o inswleiddio. Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r addewid.
“Law yn llaw â’m gwaith i roi hwb i Grant Cartrefi Gwyrdd Cymru, rwyf hefyd yn ysgrifennu at arweinydd pob awdurdod lleol yng Nghymru i ofyn iddynt edrych ar ddefnyddio gwlân Cymru i inswleiddio unrhyw gartrefi awdurdod lleol newydd ac wrth wneud unrhyw waith uwchraddio yn y dyfodol.
“O’n hymgyrch i gynyddu oes silff cig oen Cymru, i’n hymdrech i wella’r gadwyn gyflenwi ar gyfer cynhyrchwyr cynnyrch llaeth, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod bod gan Aelodau etholedig lwyfan i fynd i’r afael â pholisïau sy’n rhoi ffermwyr wrth galon datganoli.”
DIWEDD