Mae Janet Finch-Saunders AS Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig wedi mynd ati heddiw (17 Awst) i bwyso ar Lywodraeth Cymru i gynnig cynllun tebyg i Gynllun Grant Tai Gwyrdd y Canghellor.
Bydd y polisi’n golygu y bydd 600,000 a mwy o berchnogion tai yn Lloegr yn derbyn hyd at £5,000 i osod insiwleiddio, pympiau gwres a mesurau atal drafftiau er mwyn helpu i ostwng biliau ynni. Dan y cynllun, gall aelwydydd ar incwm isel dderbyn talebau sy’n 100% o gost y gwelliannau, hyd at uchafswm o £10,000.
Bydd y cynllun newydd yn cynnig amrywiaeth ehangach o gymorth na rhaglen bresennol Llywodraeth Cymru sef y rhaglen Nyth, sy’n bwriadu gosod boeleri am ddim, systemau gwres canolog ac insiwleiddio er mwyn helpu aelwydydd ar incymau isel a’r tenantiaid hynny sydd â chyflyrau sydd eisoes yn bodoli. Mae galwad Gweinidog yr Wrthblaid yn dod law yn llaw â'i llythyr i'r Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf, a oedd yn pwyso am y defnydd gorfodol o wlân o Gymru ym mhob cynllun insiwleiddio mewn cartrefi newydd.
Gan sôn am y galwadau y mae wedi’u gwneud, dywedodd Janet:
“Mae’r cyhoeddiad hwn am y prosiect gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn gyffrous iawn, ac mae ganddo’r potensial nid yn unig i gefnogi 100,000 a mwy o swyddi coler werdd, ond mae’n gyfraniad cadarnhaol hefyd at ein hymdrech genedlaethol i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
“Rydw i’n pwyso ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar unwaith i ymchwilio i’r ffordd y gallwn ni gynnig yr un cynllun yma yng Nghymru, sy’n ffordd bendant o gynyddu’r cymorth a gynigir o gymharu â’r hyn a gynigir ar hyn o bryd fel y rhaglen Nyth. Byddai’n cael effaith bellgyrhaeddol ar gostau byw, yn ogystal ag ar gyfer defnyddio stoc wlân ein cenedl.
“Ar ôl ymchwilio i’r posibiliadau cyllido ar gyfer y cynllun, credaf y gall Cymru ddod o hyd i’r cymorth ariannol sydd angen drwy’r arian canlyniadol a dderbyniwyd ar gyfer gwario mewn perthynas â COVID-19. Byddai hyn yn awgrymu y byddai’r cynllun gwerth tua £100 miliwn.
“Mae angen arweinyddiaeth flaenllaw ac arloesol er mwyn cynnal twf economaidd glân wrth edrych tua’r dyfodol. Byddai cynnig yr un cynllun yng Nghymru yn fuddsoddiad tymor hir i’n heconomi, a byddai’n newid sylweddol ac angenrheidiol er mwyn gwneud mwy i warchod yr amgylchedd.”
DIWEDD