Mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw am ymrwymiad i lunio cynllun gweithredu penodol i Gymru gyfan er mwyn gwella’r gefnogaeth i boblogaeth Bodaod Tinwyn y genedl.
Roedd ei llythyr yn galw hefyd i gryfhau camau gorfodi yn erbyn y troseddwyr hynny sy’n lladd y rhywogaeth flaenoriaeth yn anghyfreithlon. Yn Lloegr, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi ymrwymo i gyflawni camau wedi’u targedu ar gyfer adfer poblogaethau’r Bodaod Tinwyn, yn cynnwys cyhoeddi Cynllun Gweithredu drwy is-grŵp o'i Fforwm Rhanddeiliaid Ucheldir
Gan sôn am ei llythyr, dywedodd Janet:
“Rydw i’n galw am ymrwymiad unigryw gan Lywodraeth Cymru i lunio Cynllun Gweithredu penodol i Gymru, sy’n gyfyngedig o ran amser ac sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid perthnasol, fel y gellir cefnogi’n well poblogaeth Bodaod Tinwyn y genedl, wrth symud ymlaen.
“Mae nifer y parau o Fodaod Tinwyn yng Nghymru wedi gostwng mwy na thraean yn y chwe blynedd hyd 2016, sy’n golygu’r boblogaeth isaf a gofnodwyd ers dros ddegawd.
“Tra bod erlyn adar ysglyfaethus yn flaenoriaeth droseddol o ran bywyd gwyllt y genedl, mae’n rhaid gorfodi cosbau llym er mwyn sicrhau bod y statws hwn yn gwneud i bobl weld mai dyma’r realiti. Mae cefn gwlad Cymru’n fyrlymus a chyfoethog o fywyd gwyllt ac mae’n rhaid iddo gael y gefnogaeth ddigonol gan yr amddiffyniadau deddfwriaethol er mwyn diogelu rhywogaethau blaenoriaeth o’r fath.
“Mae’n rhaid i’r corff datganoledig ym Mae Caerdydd sefyll yn gryf i ddiogelu ein hardaloedd gwledig, drwy ymdrechu i ddatblygu economi Cymru wledig a fydd yn addas i’r diben yn y dyfodol. Bydd amddiffyniadau synhwyrol amgylcheddol a bywyd gwyllt, a welwyd drwy ymgysylltu’n ddiwyd â rhanddeiliaid, yn hanfodol er mwyn cyflawni’r nod hwn.”
DIWEDD