Heddiw (29 Gorffennaf), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ‘gynyddu’r cymorth i sector amaeth-dechnoleg y genedl.
Daw ei galwadau ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi y bydd yn darparu cymorth cyllid i naw prosiect arloesol ledled Lloegr sy’n defnyddio data mawr, AI a roboteg ym maes ffermio er mwyn helpu i sefydlu system fwy effeithlon o gynhyrchu bwyd.
Wrth drafod sector amaeth-dechnoleg Cymru, dywedodd Janet:
“Rwy’n croesawu’r newyddion hwn am gyllid gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn San Steffan ac yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddechrau meithrin ei hoes ei hun o arloesedd ym myd amaeth, drwy gynyddu ei hymrwymiadau cyllid i sector amaeth-dechnoleg Cymru.
“Trwy gefnogi’r math hwn o ffermio blaengar ac arloesol, gall Llywodraeth Cymru ddiogelu ffermwyr ein cenedl rhag methu â dal i fyny gyda’r economi byd-eang sy’n esblygu’n gyflym.
“Gan fod technoleg fel hyn yn aml yn helpu i wella cynhyrchiant cnydau mewn modd cynaliadwy ac amgylcheddol, bydd y cam hwn yn cynyddu effeithlonrwydd tra’n cefnogi nodau polisi ehangach i leihau allyriadau carbon Cymru.
“Bydd darparu cymorth cyllid ar gyfer y prosiectau amaeth-dechnoleg cyffrous arloesol hyn hefyd yn arwain at waith traws sector. Mae hyn yn golygu y bydd cefnogaeth ar gyfer y sector hefyd o fudd i Brifysgolion blaenllaw’r genedl, gan sbarduno graddedigion a sin dechnolegol newydd.”
DIWEDD
Ffotograff: Melissa Askew/UnSplash