Mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymraeg dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru heddiw (14 Awst) yn galw am fesurau gorfodol er mwyn sicrhau bod gwlân o Gymru’n cael ei ddefnyddio mewn cynlluniau insiwleiddio cartrefi newydd.
Yr haf hwn, mae ffermwyr defaid Cymru wedi gweld y pris y maen nhw’n ei gael am eu gwlân yn gostwng yn sylweddol iawn o ganlyniad i bandemig COVID-19. Erbyn hyn dim ond 28c y cnu y mae rhai ffermwyr defaid yn ei dderbyn, sy’n ddim o gymharu â chost cneifio. Eleni, mae swyddogion y diwydiant yn darogan y bydd gwerth gwlân yn gostwng o hanner o leiaf.
Gan sôn am ei llythyr at y Prif weinidog, dywedodd Janet:
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i ffermwyr defaid Cymru, oherwydd yn drist iawn maen nhw wedi bod yn dyst i ostyngiad sylweddol iawn ym mhris gwlân o ganlyniad i’r pandemig COVID-19.
“Yn anffodus rydw i wedi clywed bod llawer o ffermwyr wedi cymryd penderfyniadau anodd i aradr eu gwlân i mewn i’w caeau fel gwrtaith. Mae’n dorcalonnus gweld penderfyniadau o’r fath yn gorfod cael eu gwneud, sy’n cael effaith niweidiol ar fywoliaeth ffermwyr, sy’n ddigon caled fel y mae.
“Rydw i wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn pwyso ar Weinidogion Cymru i ystyried gwneud y defnydd o wlân Cymru yn orfodol mewn cynlluniau insiwleiddio cartrefi newydd, yn ogystal ag ar gyfer insiwleiddio yn y dyfodol ac wrth osod carpedi newydd mewn adeiladau cyhoeddus yng Nghymru.
“Mae gan Aelodau Etholedig blatfform y gallan nhw ei ddefnyddio i ddilyn polisïau a sicrhau bod budd gorau amaethyddiaeth a ffermwyr wrth wraidd datganoli. Drwy addasu ein harferion prynu, bydd yn arwydd amlwg ein bod yn cefnogi diwydiant sy’n gwbl hanfodol i economi Cymru.”
DIWEDD