Heddiw (23 Gorffennaf), anogodd Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig –Lywodraeth Cymru i wneud mwy i helpu i ‘herio’r stigma’ iechyd meddwl sydd ymysg cymuned ffermio’r genedl.
Daeth ei hymyrraeth wrth i Undeb Amaethwyr Cymru gynnal sesiwn ‘Iechyd Meddwl - Sut ydych chi?' fel rhan o Sioe Frenhinol rithwir eleni. Bydd y digwyddiad, a gynhelir law yn llaw ag elusennau ffermio blaenllaw yng Nghymru, yn galluogi cyfranogwyr i edrych ar yr hyn sydd wedi newid, pa mor bell mae’r sector wedi dod a pha broblemau sy’n parhau.
Wrth siarad am y mater, dywedodd Janet:
“Mae effaith gyflym ac ysgytwol y pandemig COVID-19 ar gymuned ffermio Cymru unwaith eto wedi taflu goleuni ar sefyllfa wan llawer o ffermwyr, gydag ynysu a phwysau ariannol hirdymor wedi’u dwysau gan ffactorau cyflym na ellir eu rheoli.”
“Datgelodd dadansoddiad syfrdanol o’r sector bod un gweithiwr amaethyddol yn lladd ei hun yn y DU bob wythnos. Mae oddeutu 84% o ffermwyr dan 40 oed hefyd yn credu mai iechyd meddwl yw’r perygl unigol mwyaf sy’n wynebu’r diwydiant.
“Mae’n rhaid gwneud mwy i gefnogi ein cynorthwywyr ffermio a gweithwyr amaethyddol. Rwy’n croesawu trafodaeth heno ar y mater hwn yn y sioe rithwir ac yn gobeithio y bydd unwaith eto’n herio a newid agweddau tuag at iechyd meddwl yn y gymuned ffermio.
“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dal ati i weithio i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i helpu i chwalu’r stigma. Rwy’n erfyn ar Lesley Griffiths i ystyried lansio ymgyrch ymwybyddiaeth ddigidol sy’n cyfeirio pobl tuag at wasanaethau cwnsela a chymorth.”
DIWEDD
Ffotograff: Spencer Pugh/UnSplash