Mae Janet Finch-Saunders AS Aelod Senedd Cymru Aberconwy wedi datgan ei syndod heddiw (11 Awst) bod Llywodraeth Cymru’n parhau i fod ofn cael ei herio gan aelodau o’r wrthblaid yn ystod toriad yr haf presennol.
Mae cyfyngiadau mawr wedi bod ar allu Aelodau i graffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig dros fisoedd diweddar, rhwng y sesiynau Cyfarfod Llawn hybrid sy’n cwtogi sesiynau holi a’r cyfyngiadau sydd wedi’u rhoi ar y defnydd o’r system Cwestiynau Ysgrifenedig. Yn ystod toriad yr haf 2020, mae Aelodau wedi clywed mai dim ond pump o Gwestiynau Ysgrifenedig y mae ganddyn nhw’r hawl i’w cyflwyno bob wythnos.
Ar hyn o bryd hefyd, nid yw cyflwyno Cwestiwn Ysgrifenedig yn gwarantu ymateb ffurfiol o fewn amserlenni a gytunwyd. O’r 46 o gwestiynau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Mrs Finch-Saunders AS rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf 2020, mae 13 wedi cael ymateb safonol. Dim ond gwneud addewidion y mae’r rhain y bydd yr Aelod yn cael ymateb ‘sylweddol’ yn ddiweddarach. Mae dau gwestiwn arall o’r cyfnod hwn hefyd heb eu hateb.
Gan sôn am y mater, meddai Janet:
“Roedd ofn parhaus Llywodraeth Cymru i gael ei herio’n annibynnol gan Aelodau’r wrthblaid yn syndod i mi. Er fy mod yn gwerthfawrogi’r straen sydd ar holl Weinidogion Cymru, mae’r cyhoedd yn disgwyl i Senedd Cymru gynnal gwiriadau cywir gydol y cyfnod heriol hwn.
“Mae hyn yn arbennig o wir pan fyddwch chi’n ystyried bod Gweinidogion Cymru wedi methu targedau profi COVID-19, wedi anfon miloedd o lythyrau gwarchod i’r cyfeiriad anghywir ac wedi llywyddu dros system a oedd yn rhoi pwysau ar gleifion oedrannus i lofnodi ffurflenni Dim CPR.
“Gyda chyfyngiadau ar gyfraniadau yn ystod sesiynau cyfarfod llawn hybrid, sy’n golygu nad yw llawer o’r Aelodau ddim yn cael siarad, a chyfyngiadau mympwyol cynyddol i nifer y Cwestiynau Ysgrifenedig gall Aelod ei gyflwyno, mae’n gwbl anghyfrifol i Weinidogion Cymru osgoi cyflwyno ymatebion llawn a phriodol i gwestiynau.
“Mae’r toriad hwn yn wahanol i bob un arall. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru barhau’n agored i unrhyw graffu drwy ddarparu atebion llawn a phriodol, o fewn amserlenni a gytunwyd. Bydd methu â darparu’r rhain yn arwydd haerllug o amarch i’r cyhoedd rydyn ni wedi’n hethol i’w gwasanaethu.”
DIWEDD