Janet Finch-Saunders MS has congratulated the team at Happily Ever After in Llandudno for their tremendous success.
The Member of the Welsh Parliament for Aberconwy welcomed the continued growth of their business, and the warmth and joy that they bring to the whole community.
Happily Ever After was founded in July 2018 and began by selling various Disney items online from their home in Staffordshire. This grew into converting one of their bedrooms into a space where people could come and look at various items and purchase from their home.
Happily Ever After opened their doors on Mostyn Street in October 2020 and continue to grow their business.
Happily Ever After’s range includes Classic Disney, Classic Winnie the Pooh, Peter Rabbit, Guess How Much I Love You, Paddington Bear and much more.
Speaking after her visit, Janet said:
“I am delighted by the success of Happily Ever After.
“Upon entering the store, I was warmly welcomed by proprietors Jake and Amy Bailey. A quick scan around the shop soon convinced me that there was something here for everyone.
“More interestingly, they have taken the innovative step to allow other local crafters to rent some shelf space to display and sell their own creations also.
“This is proving so successful, they are now increasing the shelf space to include more items and already have a long list of crafters wanting to rent some space. Another 14 creative individuals will be displaying their wares there soon also.
“Within minutes, I found a beautifully hand knitted jacket and quickly decided to purchase this for our Grandson.
“Well done Jake and Amy in everything you do going forwards. I wish you a very happy and busy summer season ahead”!
Mae Janet Finch-Saunders AS wedi llongyfarch y tîm yn Happily Ever After yn Llandudno am eu llwyddiant ysgubol.
Canmolodd yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy dwf parhaol eu busnes, a'r rhadlonrwydd a'r llawenydd y maent yn ei gyfrannu i’r gymuned gyfan.
Sefydlwyd Happily Ever After ym mis Gorffennaf 2018, gan ddechrau gwerthu amryw o eitemau Disney ar-lein o'u cartref yn Swydd Stafford. Tyfodd hyn i droi ystafell wely yn ofod lle gallai pobl ddod i edrych ar wahanol eitemau a phrynu o'u cartref.
Agorodd Happily Ever After eu drysau ar Stryd Mostyn ym mis Hydref 2020 ac maen nhw'n parhau i ddatblygu eu busnes.
Mae arlwy Happily Ever After yn cynnwys Classic Disney, Classic Winnie the Pooh, Peter Rabbit, Guess How Much I Love You, Paddington Bear a llawer mwy.
Yn siarad ar ôl ei hymweliad, dywedodd Janet:
"Rwyf wrth fy modd gyda llwyddiant Happily Ever After.
"Ar ôl mynd i mewn i'r siop, cefais groeso cynnes gan y perchnogion Jake ac Amy Bailey. Sylweddolais ar unwaith bod rhywbeth yma i bawb.
"Yn fwy diddorol, maen nhw wedi cymryd y cam arloesol o ganiatáu i grefftwyr lleol eraill rentu lle ar y silffoedd i arddangos a gwerthu eu nwyddau eu hunain hefyd.
"Mae hyn mor llwyddiannus nes eu bod bellach yn gwneud mwy o le ar y silffoedd i gynnwys mwy o eitemau ac mae ganddyn nhw eisoes restr hir o grefftwyr sy’n awyddus i rentu gofod. Bydd 14 unigolyn creadigol arall yn arddangos eu nwyddau yno cyn bo hir hefyd.
"O fewn munudau, fe ddes i o hyd i siaced hyfryd wedi'i gwau â llaw a dyma benderfynu’n syth ei phrynu i fy ŵyr.
"Da iawn, Jake ac Amy, a phob hwyl gyda datblygiadau’r dyfodol. Dymunaf haf hapus a phrysur iawn i chi"!
DIWEDD/ENDS