A member of the Llandudno Hospital staffing team, and Janet Finch-Saunders MS, have spoken out against claims by Health Board officials that operations at Llandudno Hospital are cancelled due to “health and safety”.
Responding to the comments made by Mrs Finch-Saunders that the theatre and Maesdu Ward are out of action because of a broken lift, Libby Ryan-Davies, Central Integrated Health Community Director, Betsi Cadwaladr University Health Board said:
“Due to health and safety reasons while building work is ongoing, the theatre activity which would normally take place at Llandudno Hospital has been transferred to Ysbyty Gwynedd.
"This arrangement has been in place since March 2024. All patients are seen in order of clinical priority and length of wait.
"We plan to return surgical activity back to Llandudno Hospital when safe to do so and are in the process of arranging works to ensure the lift is upgraded in time for when this happens.”
Responding to the Health chief’s explanation, a member of the Llandudno hospital staff team said:
“The building work on the new orthopaedic hub is separate to the existing operating theatre and Maesdu Ward. The Health Board are using the development as an excuse for not fixing the broken lift.
“If the lift was fixed today operations could take place in Llandudno Hospital.
“The reality is that Llandudno list are unnecessarily transferred to Gwynedd, where many of the patients are seeing their ops cancelled because of the volume of emergencies”.
Mrs Finch-Saunders added:
“I praise staff at Llandudno Hospital, who work on the front line, for having the courage to speak out at what is an unacceptable and ludicrous situation.
“It seems to me that the Health Board is trying to save face over the cancellation of all operations in Llandudno by using the development on site as an excuse.
“To me, this lift saga is yet another example of the failing management at the Health Board.
“I will continue to champion the staff at Llandudno Hospital and fight for additional investment. Doing so is common sense, because there is no denying that both Gwynedd and Glan Clwyd are overwhelmed.”
ENDS
Mae aelod o dîm staffio Ysbyty Llandudno, a Janet Finch-Saunders AS, wedi siarad yn erbyn honiadau gan swyddogion y Bwrdd Iechyd bod llawdriniaethau yn Ysbyty Llandudno yn cael eu canslo oherwydd "iechyd a diogelwch”.
Wrth ymateb i'r sylwadau a wnaed gan Mrs Finch-Saunders nad yw'r theatr a Ward Maesdu ar agor am fod lifft wedi torri, dywedodd Libby Ryan-Davies, Cyfarwyddwr Cymunedol Iechyd Integredig Canolog, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
“Oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo, mae'r gwaith theatr a fyddai fel arfer yn digwydd yn Ysbyty Llandudno wedi symud i Ysbyty Gwynedd.
"Mae’r trefniant hwn ar waith ers Mawrth 2024. Rydym yn gweld pob claf yn ôl trefn blaenoriaeth glinigol a hyd yr aros.
"Rydyn ni'n bwriadu dychwelyd gweithgarwch llawfeddygol i Ysbyty Llandudno pan mae'n ddiogel i wneud hynny ac rydym wrthi'n trefnu gwaith i sicrhau bod y lifft yn cael ei uwchraddio mewn da bryd."
Wrth ymateb i esboniad y pennaeth iechyd, dywedodd aelod o dîm staff ysbyty Llandudno:
“Mae'r gwaith adeiladu ar y ganolfan orthopedig newydd ar wahân i'r theatr lawdriniaeth bresennol a Ward Maesdu. Mae'r Bwrdd Iechyd yn defnyddio'r datblygiad fel esgus dros beidio â defnyddio'r theatr.
“Pe bai'r lifft yn cael ei drwsio heddiw, gallem gynnal llawdriniaethau yn Ysbyty Llandudno.
“Pe bai'r lifft wedi'i drwsio heddiw, byddai staff sy'n gweithio gydag arbenigeddau eraill sydd angen mynediad i'r llawr cyntaf yn cael cymorth yn eu gwaith.
“Yn ddiddorol, mae staff yr ysbyty wedi clywed heddiw am ddrws tân lle gallai'r gwaith adeiladu fod yn rhwystro'r allanfa yno. Fodd bynnag, rydyn ni hefyd wedi cael gwybod bod modd goresgyn y broblem trwy greu coridor dros dro.
“Y gwir amdani yw bod rhestr aros Llandudno yn cael ei throsglwyddo'n ddiangen i Ysbyty Gwynedd, lle mae llawdriniaethau llawer o'r cleifion yn cael eu canslo oherwydd lefel yr argyfyngau".
Ychwanegodd Mrs Finch-Saunders:
“Rwy'n canmol staff rheng flaen Ysbyty Llandudno, am fod yn ddigon dewr i siarad am sefyllfa annerbyniol a chwerthinllyd hon.
“Mae’n amlwg bod y Bwrdd Iechyd yn ceisio cadw wyneb dros ganslo pob llawdriniaeth yn Llandudno drwy ddefnyddio'r datblygiad ar y safle fel esgus.
“I mi, mae saga'r lifft yn enghraifft arall o reolwyr yn methu'r Bwrdd Iechyd. Dylen nhw fwrw ati i drwsio'r lifft, ac os oes angen, creu'r coridor dros dro i oresgyn unrhyw broblem gyda'r drws tân.
“Byddaf yn parhau i siarad dros staff Ysbyty Llandudno ac yn brwydro am fuddsoddiad ychwanegol. Mae hynny'n synnwyr cyffredin, oherwydd ‘does dim dwywaith bod Ysbytai Gwynedd a Glan Clwyd dan bwysau mawr. Mae ychwanegu pwysau arnyn nhw pan mae 'na theatr wag yn Llandudno yn amhosib ei gyfiawnhau”.
DIWEDD
Llun: Janet yn Ysbyty Llandudno