Welsh Water and partners are pleased to announce the reopening of an historic bridge that spans the picturesque River Conwy, following extensive refurbishment work. The bridge, which connects Dolgarrog village to the local train station and beyond, has opened following a substantial £1.9 million investment.
The Dolgarrog Pipe Bridge serves as a crucial link for the Conwy Valley, carrying two water pipes that supply drinking water to over 43,000 local homes and businesses. Furthermore, it has long served as a cherished walkway for numerous residents, connecting Dolgarrog village to nearby communities. The temporary closure of the bridge in January 2021 was prompted by significant concerns about the bridge's condition. The owners of the bridge Welsh Water, committed to collaborate with local stakeholders and partners to restore the structure's safety to enable it to reopen.
Work to strengthen, repair, and improve the bridge started in May 2022 and was completed earlier this month. Work on this challenging project had to coincide with low water levels in the river along with hanging scaffolding for strengthening work under the bridge.
The £1.2 million investment by Welsh Water along with a £735,000 Welsh Government grant for Conwy County Borough Council has ensured that the bridge will also in the future form part of an active travel route.
Arwel Jones, Welsh Water’s Head of Engineering, Commissioning & Handover said;
"Following the closure of the bridge in 2021, we have worked closely with our partners to develop a bridge that can serve as a shared space for both cyclists and pedestrians while preserving and maintaining our critical infrastructure. I am thrilled that our design accomplishes both objectives, enabling us to reopen the bridge to the public.
“This substantial investment in the bridge demonstrates our commitment as a company to reinvest directly for the benefit of our customers and local communities. I am pleased that our collaboration with local partners will bring widespread benefits and opportunities to the local area.”
Cllr Goronwy Edwards, Cabinet Member for Environment, Roads and Facilities – Infrastructure said:
“We are happy to be working with Welsh Water on improving this walking and cycling route, which provides an important integrated transport link to the local community and wider area. The bridge improvements will mean people can choose to travel sustainably and not have to rely on motor vehicles.”
To mark the official reopening, an event was held at the bridge on Friday, May 26th with the ribbon being cut by local Member of the Senedd, Janet Finch-Saunders. The event was attended by local stakeholders and partners who have played a role in ensuring the bridge has been reopened.
Having cut the ribbon, Janet Finch-Saunders said;
“Following being closed for just over two years, it is great to see this vital link between Dolgarrog and the Conwy Valley and beyond, back open to the public. Following collaboration work between Welsh Water, Conwy County Borough Council, Transport for Wales and others, I am pleased that we now have a bridge that can be enjoyed by the local residents as well as tourist visiting the area.”
Also present at the event were pupils from the local school, Ysgol Dyffryn yr Enfys who, through the donation of water pipes by Welsh Water have created a 19 foot dragon. According to local legend Dolgarrog was named after Garrog, a mythical flying dragon that roamed the area. The dragon has been created as part of the village’s preparation work for Gwŷl Garrog to be held in the village in September.
END
Yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth, mae Dŵr Cymru a’i bartneriaid yn falch o allu ail-agor pont hanesyddol sy’n croesi Afon Conwy. Mae’r bont, sy’n cysylltu pentref Dolgarrog â’r orsaf drenau leol a thu hwnt, wedi agor yn dilyn buddsoddiad sylweddol o £1.9 miliwn.
Mae Pont Pibau Dolgarrog yn gyswllt hollbwysig i Ddyffryn Conwy, gan gludo dwy bibell ddŵr sy’n cyflenwi dŵr yfed i dros 43,000 o gartrefi a busnesau lleol. Mae hefyd yn bont sy’n cael ei defnyddio gan bobl leol i fynd am dro, gan gysylltu pentref Dolgarrog â chymunedau cyfagos. Cafodd y bont eich chau dros dro ym mis Ionawr 2021 wedi pryderon sylweddol am gyflwr y bont. Ymrwymodd perchnogion y bont Dŵr Cymru i gydweithio â rhanddeiliaid a phartneriaid lleol i adfer diogelwch y strwythur er mwyn ei alluogi i ailagor.
Dechreuodd gwaith i gryfhau, atgyweirio a gwella’r bont ym mis Mai 2022 a chafodd ei chwblhau yn gynharach y mis hwn. Roedd yn rhaid i waith ar y prosiect heriol hwn gyd-fynd â lefelau dŵr isel yn yr afon ynghyd â sgaffaldiau crog ar gyfer gwaith cryfhau o dan y bont.
Mae’r buddsoddiad o £1.2 miliwn gan Dŵr Cymru ynghyd â grant o £735,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi sicrhau y bydd y bont hefyd yn y dyfodol yn rhan o lwybr teithio llesol.
Meddai Arwel Jones, Pennaeth Peirianneg, Comisiynu a Throsglwyddo Dŵr Cymru;
“Yn dilyn cau’r bont yn 2021, rydym wedi gweithio’n agos gyda’n partneriaid i ddatblygu pont a all wasanaethu fel gofod i’w rannu gan feicwyr a cherddwyr sydd hefyd yn gadael i ni gynnal a gwarchod ein asedau pwysig. Rwy’n falch iawn fod dyluniad newydd y bont yn cyflawni'r ddau amcan, ac yn ein galluogi i ailagor y bont i'r cyhoedd.
“Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn yn y bont yn dangos ein hymrwymiad fel cwmni i ail-fuddsoddi’n uniongyrchol er budd ein cwsmeriaid a’n cymunedau lleol. Rwy’n falch y bydd ein gwaith i atgyweirio’r bont hon gyda’n partneriaid lleol yn dod â manteision a chyfleoedd eang i’r ardal leol.”
Meddai’r Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Seilwaith:
“Rydym yn hapus i weithio gyda Dŵr Cymru i wella’r llwybr cerdded a beicio hwn, sy’n darparu cyswllt trafnidiaeth integredig pwysig i’r gymuned leol a’r ardal ehangach. Bydd y gwelliannau i’r bont yn golygu y gall pobl ddewis teithio’n gynaliadwy a pheidio â gorfod dibynnu ar gerbydau modur.”
I nodi’r ailagoriad swyddogol, cynhaliwyd digwyddiad wrth y bont ddydd Gwener, Mai 26ain gyda’r rhuban yn cael ei dorri gan yr Aelod lleol o’r Senedd, Janet Finch-Saunders. Mynychwyd y digwyddiad gan randdeiliaid a phartneriaid lleol sydd wedi chwarae rhan mewn sicrhau bod y bont wedi’i hailagor.
Wedi torri’r rhuban, dywedodd Janet Finch-Saunders AS;
“Ar ôl bod ar gau am ychydig dros ddwy flynedd, mae’n wych gweld y cysylltiad hollbwysig hwn rhwng Dolgarrog a Dyffryn Conwy a thu hwnt, yn ôl ar agor i’r cyhoedd. Yn dilyn cydweithio rhwng Dŵr Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Trafnidiaeth Cymru ac eraill, rwy’n falch bod gennym bellach bont y gall y trigolion lleol yn ogystal â thwristiaid sy’n ymweld â’r ardal ei mwynhau.”
Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad roedd disgyblion o’r ysgol leol, Ysgol Dyffryn yr Enfys sydd, trwy rodd o bibellau dŵr gan Dŵr Cymru wedi creu draig 19 troedfedd. Yn ôl y chwedl leol cafodd Dolgarrog ei enwi ar ôl Garrog, draig chwedlonol oedd yn crwydro'r ardal. Mae’r ddraig wedi ei chreu fel rhan o waith paratoi’r pentref ar gyfer Gwŷl Garrog sydd i’w gynnal yn y pentref ym mis Medi.