Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has spoken of her delight having visited Llandudno’s Home Front Museum last week.
The Home Front Museum is a unique living history museum that provides a walk down memory lane to 1940’s Britain. The building itself was requisitioned by the Auxiliary Fire Service during the Second World War.
This fantastic museum provides an insight into what life on the home front was like during the war, through an impressive collection of memorabilia.
Speaking of her visit, Janet said,
“A big thank you for the team at the Home Front Museum for running this wonderful museum, and helping our community to remember such an important period of history.
“Adrian specifically highlighted several Llandudno men who tragically lost their lives during the war, and is helping to keep their memory alive. He also works with the Royal British Legion, and looks after the local war graves of those who tragically lost their lives to ensure our own freedoms.
“It is vital to keep the memory of those who fought for us, and the Home Front Museum does a fantastic job remembering them whilst also transporting their visitors back in time. This is a must-visit museum in Llandudno!”
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi sôn am ei balchder o gael ymweld ag Amgueddfa'r Home Front yn Llandudno yr wythnos diwethaf.
Mae Amgueddfa'r Home Front yn amgueddfa hanes byw unigryw sy'n eich tywys drwy fywyd ym Mhrydain yn y 1940au. Cafodd yr adeilad ei hun ei brynu gan y Gwasanaeth Tân Ategol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r amgueddfa wych hon yn rhoi cipolwg ar sut beth oedd bywyd yng Nghymru ac ym Mhrydain yn ystod y rhyfel, drwy gasgliad trawiadol o hen arteffactau.
Wrth siarad am ei hymweliad, dywedodd Janet,
“Diolch yn fawr iawn i'r tîm yn Amgueddfa'r Home Front am redeg yr amgueddfa wych hon, ac am helpu ein cymuned i gofio cyfnod mor bwysig yn ein hanes.
“Tynnodd Adrian sylw penodol at ddynion lawer o Landudno a gollodd eu bywydau yn ystod y rhyfel, ac mae'n helpu i'w cadw nhw'n fyw yn ein cof. Mae hefyd yn gweithio gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol, ac yn gofalu am feddau rhyfel lleol y rhai a gollodd eu bywydau i sicrhau ein rhyddid ni.
“Mae'n hanfodol cadw'r rhai a frwydrodd drosom yn fyw yn ein cof, ac mae Amgueddfa'r Home Front yn gwneud gwaith gwych yn eu cofio ac wrth dywys ei hymwelwyr yn ôl mewn amser. Mae hon yn amgueddfa y mae'n rhaid i chi ymweld â hi yn Llandudno!”