Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has praised all the team at the Hope House shop in Llandudno, after recently visiting the charity shop.
The organisation support more than 750 local families who are either caring for a terminally ill child, or whose child has died.
It costs £7.5 million every year to provide the services, so the organisation depends on the generosity of the public, such as through buying items in their Llandudno shop.
Speaking after meeting with the team in Llandudno, Janet said:
“Only around two month’s income comes from statutory sources, so for 10 months of the year the charity is dependent on public support.
“The ambition is to raise an additional £2.5 million each year to make sure the charity reaches every child, mum, dad, brother and sister who need help in this area.
“All the team at Hope House, in Llandudno and across the country, should be proud of the amazing effort they are making to have a positive impact on the lives of so many.
“I ask all constituents to do what you can to support Hope House”.
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi canmol yr holl dîm yn siop Tŷ Gobaith yn Llandudno, ar ôl ymweld â'r siop elusen yn ddiweddar.
Mae Tŷ Gobaith yn cefnogi mwy na 750 o deuluoedd lleol sydd naill ai'n gofalu am blentyn â salwch angheuol, neu sydd wedi colli plentyn.
Mae'n costio £7.5 miliwn bob blwyddyn i ddarparu'r gwasanaethau, felly mae'r sefydliad yn dibynnu ar haelioni'r cyhoedd, er enghraifft wrth iddyn nhw brynu eitemau yn siop yr elusen yn Llandudno.
Wrth siarad ar ôl cyfarfod â'r tîm yn Llandudno, dywedodd Janet:
"Dim ond gwerth tua dau fis o incwm sy'n dod o ffynonellau statudol, felly am 10 mis o'r flwyddyn mae'r elusen yn ddibynnol ar gefnogaeth y cyhoedd.
"Yr uchelgais yw codi £2.5 miliwn ychwanegol bob blwyddyn i sicrhau bod yr elusen yn cyrraedd pob plentyn, mam, tad, brawd a chwaer sydd angen eu cymorth yn yr ardal.
"Dylai'r holl dîm yn Nhŷ Gobaith, yn Llandudno ac ar draws y wlad, fod yn falch o'r ymdrech anhygoel maen nhw'n ei wneud i gael effaith gadarnhaol ar fywydau cymaint o bobl.
"Gofynnaf i bob etholwr wneud yr hyn y gallwch chi i gefnogi Tŷ Gobaith".
DIWEDD
Ffoto:
Janet Finch-Saunders AS gyda'r tîm yn Nhŷ Gobaith, Llandudno