Janet Finch-Saunders MS, Shadow Minister for Climate Change (which includes housing policy), has spoken out in despair at the disclosure to her by the National Residential Landlord Association that:
- 26.8% of landlords in Wales have sold property in the last 12 months;
- 49% of landlords are planning to sell a property in the next 12 months;
- Landlord repossessions have been steadily increasing in Wales over the past year, up to 150 in Q2 of 2022, compared to 78 in Q4 of 2021.
Commenting on the private landlord sector in Wales, Janet said:
“As Dr Simon Brooks has advised, there are communities such as Caernarfon and Bangor in Gwynedd, Llangefni and Holyhead in Anglesey, and Milford Haven and Haverfordwest in Pembrokeshire, where providing a sufficient supply of rented accommodation is more important than limiting the numbers of second homes.
“The anti-multiple ownership policies stemming out of the Plaid Cymru and Welsh Labour cooperation Government are driving private landlords out of the sector.
“At a time when residents are waiting years on housing lists, the spend on temporary accommodation is skyrocketing, and not enough houses are being built, Wales needs to retain a strong rented accommodation sector.
“For years, I have warned the Welsh Government that this key component of our diverse property market was going to collapse, and now we have it.
“Welsh Government policy is acting as a tsunami driving landlords to sell up, repossess, and as such reduce the number of homes available on the market.
“An urgent rethink is required by Welsh Labour and Plaid Cymru, a point I will be making yet again in the Welsh Parliament next week”.
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid (sy’n cynnwys polisi tai), wedi siarad am ei hanobaith ar ôl i’r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol ddatgelu wrthi fod:
- 26.8% o landlordiaid yng Nghymru wedi gwerthu eiddo yn y 12 mis diwethaf;
- 49% o landlordiaid yn bwriadu gwerthu eiddo yn y 12 mis nesaf;
- Mae ailfeddiannu gan landlordiaid wedi bod yn cynyddu’n gyson yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, hyd at 150 yn ail chwarter 2022, o’i gymharu â 78 yn chwarter 4 2021.
Gan roi ei sylwadau ar y sector landlordiaid preifat yng Nghymru, dywedodd Janet:
“Fel y dywedodd Dr Simon Brooks, mae yna gymunedau fel Caernarfon a Bangor yng Ngwynedd, Llangefni a Chaergybi yn Ynys Môn, ac Aberdaugleddau a Hwlffordd yn Sir Benfro, lle mae darparu cyflenwad digonol o lety rhent yn bwysicach na chyfyngu niferoedd yr ail gartrefi.
“Mae’r polisïau sydd yn erbyn aml-berchnogaeth sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth gydweithio Plaid Cymru a Llafur Cymru yn gorfodi landlordiaid preifat allan o’r sector.
“Ar adeg lle mae preswylwyr yn aros blynyddoedd ar restrau aros, mae’r gwariant ar lety dros dro yn cynyddu’n aruthrol, a does dim digon o dai yn cael eu hadeiladu, mae angen i Gymru gadw sector llety rhentu cadarn.
“Rwyf wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru ers blynyddoedd y bydd yr elfen bwysig hon o’n marchnad eiddo amrywiol yn mynd i’r wal, ac mae hynny wedi digwydd nawr.
“Mae polisi Llywodraeth Cymru fel tswnami enfawr yn gorfodi landlordiaid i werthu, ailfeddiannu ac felly lleihau nifer y cartrefi sydd ar gael ar y farchnad.
“Mae angen i Lafur Cymru a Phlaid Cymru ailystyried y sefyllfa ar unwaith, a byddaf yn pwysleisio’r pwynt hwn unwaith eto yn y Senedd yr wythnos nesaf.”
DIWEDD