Er bod cyfrifoldeb cyfreithiol i ystyried anghenion plant anabl, mae yna feysydd chwarae ledled Cymru sydd heb yr un cyfleuster addas ar gyfer plant anabl. Wrth godi'r mater pwysig hwn yn y Senedd, galwodd Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, ar Lywodraeth Cymru i greu cyfrifoldeb cyfreithiol, a darparu cyllid digonol, fel bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod gan feysydd chwarae ym mhob cymuned gyfleusterau ar gyfer plant ag anableddau.
Ymatebodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y Cyfarfod Llawn drwy ddweud y bydd yn mynd i'r afael â'r mater.
Wrth sôn am sicrhau’r ymrwymiad pwysig hwn gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, dywedodd Janet:
“Mae rhieni wedi dweud wrthyf sut mae eu plant ag anableddau yn gorfod gwylio plant eraill yn chwarae. Mae'r sefyllfa'n warth cenedlaethol.
“Er bod Llywodraeth Cymru wedi creu cyfrifoldeb cyfreithiol i ystyried anghenion plant sy'n anabl, mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn methu â sicrhau bod gan feysydd chwarae ledled Cymru gyfleusterau addas ar gyfer plant ag anabledd.
“Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ystyried fy mhryderon a'm cynigion, ac rwy'n gobeithio bod yr ymrwymiad a gafwyd heddiw yn gam ymlaen tuag at sicrhau nad yw plant ag anableddau yn colli'r hawl i chwarae".