Heddiw (02 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Hyrwyddwr Pobl Hŷn y Ceidwadwyr Cymreig – wedi croesawu penderfyniad y Prif Weinidog y gall pobl sengl mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau symud ar waith ffurfio swigen gyda phobl o un aelwyd arall.
Yn gynharach yr wythnos hon, anogodd Mrs Finch-Saunders Weinidog Iechyd Cymru i adolygu rheoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru er mwyn galluogi teuluoedd i sefydlu rhwydwaith cymorth ar gyfer y rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain.
Wrth groesawu’r newid, dywedodd Janet:
“Ni ellir tanbrisio effaith ynysu ar lesiant meddyliol pobl, o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau’r Coronafeirws. Felly, rwy’n croesawu’r penderfyniad hwn yn fawr gan Lywodraeth Cymru, gan mai dyna’r agwedd ddyngarol a thosturiol.
“Canfu ymchwil a gynhaliwyd gan Age UK yn gynharach eleni fod dros ddau mewn pump o bobl 70 oed a throsodd yn credu bod cyfyngiadau’r Coronafeirws yn cael effaith wael ar eu hiechyd meddwl. Mae hyn yn bryder gwirioneddol yn fy etholaeth i, sy’n rhan o’r Sir gyda’r ganran uchaf o bobl hŷn dros 65 oed.
“Rhaid i awdurdodau sicrhau bob amser bod parch dyledus yn cael ei roi i’n hawl i fywyd preifat a theuluol. Mae’r penderfyniad y gall pobl sengl mewn ardaloedd ble mae cyfyngiadau symud ar waith yng Nghymru bellach ffurfio swigod gyda phobl o un aelwyd arall yn sicrhau y gellir cynnal yr hawl ddynol hon.”
DIWEDD