Janet Finch-Saunders MS/AS is today calling for a massive overhaul of transport in Wales as connectivity becomes all the more important in a developing Wales. Following Janet’s contribution in the Welsh Conservative debate on Transportation in Wales, the member for Aberconwy is reiterating her concerns on the amount of progress being made to roll out a new expansive travel network.
Speaking in the siambr, Janet said.
“If our access to transport options is not questioned, then we will continue to see an increasing decline in the Welsh Government’s approach to improving transport here in Wales. When the First Minister and his Cabinet have accesses to ministerial cars, it’s all too easy to forget how the majority of others get around.
“The Welsh Government are out of touch, and while the cost-of-living crisis is hitting hard working families in Wales, the Welsh Government insults us by failing to deliver on the most basic of services.”
Data shows that the number of people commuting has increased from 1.1 million people in 2001 to 1.3 ,million in 2019, a rise of 16.8%. With the onset of the cost-of-living crisis and an increase in the population of Wales, this is surely going to rise significantly further as people begin to seek more cost effective avenues of getting to work.
Commenting further, Janet said.
“The sluggish approach and delayed roll out of vitally important transport networks here in Wales are because of inaction for 22 years by Welsh Labour. Between January and October 2021, there were 28 services which were more than an hour late and at least 314 train services which were late by 15 to 30 minutes during the same time. As a result of the insufficient services, TfW has paid out £2.23 million in compensation to passengers since 2018: money which could have been used to roll out more improved services.
They truly take the people of Wales for granted and see their time in Government as endless. Residents can be sure that I will continue to give the Welsh Government grief in the Welsh Parliament until we have a rail service befitting our proud nation.”
Cymraeg:
“Angen gweddnewid Trafnidiaeth yng Nghymru yn llwyr, os ydym ni wir am gysylltu pobl y genedl.”
Heddiw, mae Janet Finch-Saunders AS yn galw am weddnewid trafnidiaeth yng Nghymru yn llwyr wrth i gysylltedd ddod yn bwysicach fyth i Gymru sy’n datblygu. Yn dilyn cyfraniad Janet at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth yng Nghymru, mae’r aelod dros Aberconwy wedi pwysleisio ei phryderon ynghylch y cynnydd a wnaed i gyflwyno rhwydwaith teithio eang newydd.
Yn siarad yn y Siambr, dywedodd Janet:
“Os na chwestiynir ein mynediad at drafnidiaeth, yna byddwn yn parhau i weld dirywiad cynyddol yn null Llywodraeth Cymru o wella trafnidiaeth yng Nghymru. Pan fo gan y Prif Weinidog a’r Cabinet y defnydd o geir gweinidogol, mae’n llawer rhy hawdd anghofio sut mae’r rhan fwyaf ohonom yn teithio yma ac acw.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi colli cysylltiad, a thra bod yr argyfwng costau byw yn ergyd galed i deuluoedd sy’n gweithio yn galed yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn ein sarhau drwy fethu â darparu gwasanaethau mor sylfaenol.”
Dengys data bod nifer y bobl sy’n cymudo wedi codi o 1.1 miliwn o bobl yn 2021 i 1.3 miliwn yn 2019, cynnydd o 16.8%. Gyda chwmwl yr argyfwng costau byw a chynnydd ym mhoblogaeth Cymru, mae hyn yn sicr o godi’n sylweddol wrth i bobl ddechrau canfod ffyrdd mwy cost effeithiol o gyrraedd y gwaith.
Gan roi sylwadau pellach, dywedodd Janet:
“Mae’r llaesu dwylo a’r oedi cyn cyflwyno rhwydweithiau trafnidiaeth pwysig iawn yma yng Nghymru yn deillio o ddiffyg gweithredu ers 22 mlynedd dan Lafur Cymru. Rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2021, roedd 28 o wasanaethau a oedd yn fwy nag awr yn hwyr ac o leiaf 314 o wasanaethau trên a oedd yn hwyr o rhwng 15 i 30 munud yn ystod yr un amser. O ganlyniad i’r gwasanaethau annigonol, mae TrC wedi talu £2.23 miliwn mewn iawndal i deithwyr ers 2018, arian y gellid bod wedi’i ddefnyddio i gyflwyno gwell gwasanaethau yn raddol.
Maen nhw wirioneddol yn cymryd pobl Cymru yn ganiataol ac yn gweld eu hamser mewn Llywodraeth yn ddiddiwedd. Gallaf sicrhau preswylwyr y byddaf yn dal ati i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru yn y Senedd hyd y bydd gennym wasanaeth trenau gwerth chweil i’n cenedl falch.”