Attending the Llanrwst show on Saturday, Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, took the opportunity to meet with FUW to discuss the rising operational costs of farms in Wales. Some of the biggest increases have been felt in energy, fuel and fodder. Since the start of the food security crisis, Janet has been consistent in applying pressure to the Welsh Government on confirming different support packages.
Speaking in the Senedd, Janet said.
“Farmers are struggling to make ends meet due to factors out of their control. The war in Ukraine has put an even greater strain on resources and an even greater emphasis on the need for us to resolve many of the food security concerns we have here at home.
“Our farmers are vitally important if we are to see the cost of living crisis and war in Europe through to the end. The Welsh Government must keep in constant review, the different funding packages available and release new ones where necessary.”
In Scotland, the SBA (Scottish Beef Association) Chair called for greater government funding and at present, most countries in Europe have managed to secure some sort of help from their government. The Irish, French, Germans and Spanish are currently all receiving relief funds.
Commenting further, Janet said:
“Farmers have made clear to me that they are already struggling to make ends meet, and will face a crisis this winter if the situation does not drastically improve. The Welsh Government must stand ready to provide a financial safety net so to ensure that our farmers can afford to continue producing food, because ultimately, any further decline in the goods available to the domestic market will result in further price increases for consumers”
Cymraeg:
Wrth fynychu sioe Llanrwst ddydd Sadwrn, manteisiodd Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, ar y cyfle i gyfarfod yr FUW i drafod y cynnydd mewn costau gweithredu ar ffermydd yng Nghymru. Mae’r cynnydd mwyaf wedi bod ym meysydd ynni, tanwydd a phorthiant. Ers dechrau’r argyfwng diogelwch bwyd, mae Janet wedi rhoi pwysau cyson ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau gwahanol becynnau cymorth.
Gan siarad yn y Senedd, dywedodd Janet:
“Mae ffermwyr yn cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd oherwydd ffactorau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth. Mae’r rhyfel yn Wcráin wedi rhoi mwy o bwysau hyd yn oed ar adnoddau a mwy o bwyslais fyth ar yr angen i ni ddatrys llawer o’r pryderon diogelwch bwyd sydd gennym ni yn y wlad hon.
“Mae ein ffermwyr yn hollbwysig os ydym ni am aros yn gryf yn wyneb yr argyfwng costau byw a’r rhyfel yn Ewrop. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu’r gwahanol becynnau cyllid sydd ar gael yn gyson a rhyddhau rhai newydd os oes angen.”
Yn yr Alban, galwodd Cadeirydd SBA (Scottish Beef Association) am fwy o gyllid gan y llywodraeth ac ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o wledydd yn Ewrop wedi llwyddo i sicrhau rhyw fath o gymorth gan eu llywodraeth. Mae ffermwyr yn Iwerddon, yr Almaen a Sbaen yn derbyn cyllid cymorth ar hyn o bryd.
Gan roi sylwadau pellach, dywedodd Janet:
“Mae ffermwyr wedi dweud yn glir wrthyf eu bod eisoes yn cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd, a byddant yn wynebu argyfwng dros y gaeaf os nad yw’r sefyllfa’n gwella’n sylweddol. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn barod i ddarparu rhwyd diogelwch ariannol er mwyn sicrhau y gall ein ffermwyr fforddio i ddal ati i gynhyrchu bwyd, oherwydd yn y pen draw, bydd unrhyw ddirywiad pellach yn y nwyddau sydd ar gael i’r farchnad ddomestig yn arwain at gynnydd pellach mewn prisiau i ddefnyddwyr.”