Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, took part in the Welsh Conservatives debate in the Senedd on dentistry in Wales so to highlight the difficulties faced in Aberconwy, and promote positive proposals for improving dentistry for professionals and patients.
An investigation in 2022 by the British Dental Association (BDA) found that 93% of dental practices in Wales were no longer taking on new NHS adult patient.
In 2021/22, there were 1,420 dentists with NHS activity recorded in Wales. That’s 86 fewer dentists than in 2018/19.
A BDA survey of 250 dentists in Wales found that over a third plan to further reduce their Welsh NHS contracts.
Speaking after contributing to the Welsh Conservative debate, Janet said:
“What we have in Aberconwy is clear evidence that there is a three-tier system: people who can access private treatment; people who can access NHS treatment; and people who are left unable to access either. That is a disgrace!
“I have been liaising with Betsi Cadwaladr University Health Board about the crisis for some time, and been pleased to see a plan for a £1.3m procurement that could see additional activity in existing practices or new ones set up.
“Alongside that positive action, more steps should be taken, including making the dental academy in Bangor a dental school; cutting back on bureaucracy for dentists; establishing what benefits can be offered to dental hygienists and therapists who are generally subcontractors to the dentist, rather than being an NHS employee; reviewing the two NHS contracts currently offered to dental practices; and offering graduates who work as NHS dentists for five years in Wales a refund on their university fees so that they have an incentive to stay.
“The dental sector is in crisis, but I am clear that a lot can be done to undo damage and deliver stability for professionals and patients”.
ENDS
Bu Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn cymryd rhan yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ar ddeintyddiaeth yng Nghymru er mwyn tynnu sylw at yr anawsterau yn Aberconwy, a hyrwyddo cynigion cadarnhaol ar gyfer gwella deintyddiaeth i weithwyr proffesiynol a chleifion.
Datgelodd ymchwiliad yn 2022 gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA) nad oedd 93% o ddeintyddfeydd yng Nghymru bellach yn derbyn oedolion fel cleifion newydd y GIG.
Yn 2021/22, roedd 1,420 o ddeintyddion wedi cofnodi gweithgarwch y GIG yng Nghymru. Mae hynny'n 86 yn llai o ddeintyddion nag yn 2018/19.
Datgelodd arolwg Cymdeithas Ddeintyddol Prydain o 250 o ddeintyddion yng Nghymru bod dros draean yn bwriadu tocio ar eu contractau GIG yng Nghymru ymhellach.
Wrth siarad ar ôl cyfrannu at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd Janet:
"Yr hyn sydd gennym yn Aberconwy yw tystiolaeth glir bod system tair haen: pobl sy'n gallu cael triniaeth breifat; pobl sy'n gallu cael triniaeth GIG; a phobl sy’n methu cael y naill na’r llall. Mae hynny'n warthus!
"Rydw i wedi bod yn cysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch yr argyfwng ers peth amser, ac wedi bod yn falch o weld cynllun ar gyfer caffael gwerth £1.3m a allai weld gweithgarwch ychwanegol mewn practisau presennol neu weld rhai newydd yn cael eu sefydlu.
"Ochr yn ochr â'r camau cadarnhaol hynny, dylid cymryd mwy o gamau, gan gynnwys gwneud yr academi ddeintyddol ym Mangor yn ysgol ddeintyddol; torri nôl ar fiwrocratiaeth i ddeintyddion; sefydlu pa fuddion y gellir eu cynnig i hylenwyr deintyddol a therapyddion sydd fel arfer yn isgontractwyr i'r deintydd, yn hytrach na’u bod yn weithwyr cyflogedig yn y GIG; adolygu'r ddau gontract GIG a gynigir ar hyn o bryd i ddeintyddfeydd; a chynnig ad-daliad i raddedigion sy'n gweithio fel deintyddion y GIG am bum mlynedd yng Nghymru ar eu ffioedd prifysgol fel bod ganddyn nhw gymhelliant i aros.
"Mae'r sector deintyddol mewn argyfwng, ond rwy'n glir y gellir gwneud llawer i ddadwneud y difrod a sicrhau sefydlogrwydd i weithwyr proffesiynol a chleifion".
DIWEDD