Yn dilyn cyngor gan lywodraeth Prydain i osgoi teithiau a chyswllt ag eraill nad ydynt yn hanfodol, mae Janet Finch-Saunders (Aelod dros Aberconwy) wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau’r cymorth grant i fusnesau ar unwaith i’r sectorau sydd wedi’u taro waethaf, yn unol â’r addewidion.
Daw ei galwadau ar ôl i Gymdeithas Lletygarwch Llandudno ddweud bod gwyliau sydd wedi’u trefnu ar gyfer y dyfodol yn gyfystyr â dim ond 10% o’r rhai a wnaed yr adeg yma’r llynedd. Rhybuddiodd perchennog gwesty lleol y bydd Llandudno yn troi’n dref farwaidd dros yr ychydig wythnosau nesaf.
Mae twristiaid yn gwario tua £17 miliwn y dydd yma yng Nghymru, tua £6.3 biliwn y flwyddyn. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd cyfran sylweddol o’r gwariant hwn yn cael ei golli oherwydd y feirws.
Mewn ymateb i ddau gwestiwn ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Janet, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd Croeso Cymru yn cynnal ymchwil ledled y sector i ddeall a monitro effaith COVID-19 ar fusnesau.
Wrth ymateb i’r sefyllfa, meddai Janet:
“Tra ‘mod i’n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o gymorth gydag ardrethi busnes, mae angen cyflwyno’r cymorth grant sydd wedi’i addo i fusnesau ar frys, er mwyn helpu’r rhai sydd wedi’u taro waethaf gan y coronafeirws.
“Mae gwestai ar hyd a lled Dyffryn Conwy yn dweud mai dyma’r chwarter gwaethaf ers argyfwng clwy’r traed a’r genau, yn rhannol oherwydd cyfuniad o’r llifogydd diweddar a COVID-19.
“Heb y lefel arferol o gwsmeriaid, mae busnesau mewn perygl o fynd i’r wal a swyddi lleol yn cael eu colli.
“Gyda’r banciau yn boddi dan geisiadau am fwy o arian, mae angen ymyrryd ar fyrder er mwyn helpu i gynnal busnesau.
“Hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru ddod â’r ansicrwydd ariannol i ben, a phennu system ddosbarthu hawdd ac effeithlon.
“Er sefydlogrwydd, rhaid inni osgoi aneffeithiolrwydd y cynllun cymorth cyllid argyfwng a sefydlwyd yn sgil stormydd Ciara a Dennis.
DIWEDD