Yn dilyn llanast storm Ciara ar 9 Chwefror 2020, a chyhoeddiad y Prif Weinidog o gymorth ariannol argyfwng ar 18 Chwefror 2020, mae llawer o drigolion a pherchnogion busnesau yn dal i fod yn aros am gymorth ariannol.
Yr wythnos hon, bydd Janet Finch-Saunders AC yn galw ar y Prif Weinidog a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i weithredu ar frys i brosesu ceisiadau a thaliadau.
Wrth ymateb i’r sefyllfa, meddai Janet:
“Ar 18 Chwefror 2020, fe wnaeth y Prif Weinidog addo y byddai cymorth ariannol brys ar gael i’r rhai ddioddefodd llifogydd yn eu cartrefi, yn enwedig teuluoedd heb yswiriant.
“Dair wythnos yn ddiweddarach, mae etholwyr wnaeth gais am gymorth ariannol ond sydd heb dderbyn yr un ddime yn cysylltu â mi.
“Hefyd, roedd rhaid aros tan 4 Mawrth 2020 i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru gyhoeddi cymorth ariannol uniongyrchol i fusnesau.
“Ddoe, fodd bynnag, dywedodd Busnes Cymru nad oedd ffurflenni cais ar gyfer gwerth £2.5m o gymorth ar gael o hyd.
“Fis ers storm Ciara, mae rhai busnesau wedi rhoi’r gorau iddi tra bod eraill yn dal i aros am arian yswiriant neu wedi troi i’w cynilion er mwyn gallu parhau i weithredu.
“Rwy’n hynod rwystredig gyda’r oedi mewn taliadau, a byddaf yn galw am weithredu brys ar brosesu ceisiadau a thaliadau.
“Mae’n andros o annheg fod rhai o drigolion a busnesau Llanrwst wedi gorfod disgwyl cyhyd am gymorth”.
DIWEDD