In her contribution to the Senedd today [06/07/2022] Janet Finch-Saunders MS/AS requested that the Counsel General provide an update on what discussions the Welsh Government have had with the Scottish Government about the implications for Wales of the decision to seek a Supreme Court ruling on the legality of holding a new referendum on Scottish independence.
Her questioning follows the decision of the Scottish Government to refer the question of holding a second referendum to the Supreme Court.
In her contribution, Janet said:
“Our union of four nations is currently undergoing a monumental task in safeguarding our children’s future. The gravitas of the war in Europe has been felt in every single home here in Wales and will continue to do so until Putin is removed from office.
As a result of the war, a cost-of-living crisis and a food security dilemma has been perpetuated. Now is the time for us to be discussing ways in which we can support our agricultural and food production industries here in Wales, not an independent Wales.”
Commenting further, Janet said.
“It is for the Scottish and UK Governments to settle the constitutional question between each other.
“Here in Wales however, it must be emphasised that such a demand for constitutional separation is not on the agenda, nor is there a public appetite for it.
“The Welsh Government must make clear, that regardless of the decision of the Supreme Court, Wales remains committed to the Union and the tasks set out to make it flourish for the future.
“I sincerely hope that the Welsh Government continue to make clear that Wales is invested in improving the lives of all who live here.”
Cymraeg:
Yn ei chyfraniad at y Senedd heddiw [06/07/2022], gofynnodd Janet Finch-Saunders AS i'r Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth yr Alban ynghylch y goblygiadau i Gymru yn sgil y penderfyniad i geisio dyfarniad y Goruchaf Lys ar gyfreithlondeb cynnal refferendwm newydd ar annibyniaeth i'r Alban.
Mae hyn yn dilyn penderfyniad Llywodraeth yr Alban i gyfeirio'r cwestiwn o gynnal ail refferendwm i'r Goruchaf Lys.
Yn ei chyfraniad, dywedodd Janet:
“Mae ein hundeb o bedair gwlad yn ymgymryd â thasg aruthrol ar hyn o bryd wrt ddiogelu dyfodol ein plant. Mae difrifoldeb y rhyfel yn Ewrop yn cael ei deimlo ym mhob un cartref yma yng Nghymru, a bydd hynny'n parhau hyd nes y caiff Putin ei ddiswyddo.
O ganlyniad i'r rhyfel, mae argyfwng costau byw a chyfyng-gyngor diogelwch bwyd wedi dod i'r amlwg. Nawr yw'r amser i ni drafod ffyrdd y gallwn ni gefnogi ein diwydiannau amaethyddol a chynhyrchu bwyd yma yng Nghymru, yn hytrach na Chymru annibynnol.”
Ychwanegodd Janet:
“Mater i Lywodraethau'r Alban a'r DU yw setlo'r cwestiwn cyfansoddiadol rhwng ei gilydd.
“Yma yng Nghymru, fodd bynnag, rhaid pwysleisio nad yw'r fath alw am wahanu cyfansoddiadol ar yr agenda, ac nid yw'r cyhoedd yn pwyso amdano chwaith.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru ei gwneud yn glir, waeth beth fo penderfyniad y Goruchaf Lys, fod Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r Undeb a'r tasgau a bennwyd er mwyn iddi ffynnu yn y dyfodol.
“Rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i'w gwneud yn glir bod Cymru'n ymrwymedig i wella bywydau pawb sy'n byw yma.”
Mae angen camau pellach ar droseddau cefn gwlad yng Nghymru
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy, wedi sôn am yr angen wrth Llywodraeth Cymru i gymryd camau pellach i fynd i'r afael â throseddau cefn gwlad.
Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru Grŵp Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru sydd i fod i atal ac ymchwilio i droseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt. Fodd bynnag, mae'r Aelod wedi codi pryderon o'r blaen nad yw aelodaeth y grŵp yn cynnwys rhanddeiliaid llywodraeth leol a ffermio.
Wrth weld y data diweddaraf, dywedodd Janet:
“Dros yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi clywed am ddigwyddiadau difrifol ledled Cymru, megis:
- 150 o famogiaid magu penwyn Cymreig yn cael eu dwyn
- 1,000 litr o ddiesel wedi'i ddwyn o fferm
- Beic cwad wedi'i ddwyn
- A 7 digwyddiad o boeni da byw yn y Gogledd, gan gynnwys hwrdd a gafr yn Llandudno yn dioddef ymosodiadau milain gan gŵn.
Mae'r ffigurau hyn yn destun pryder ac yn dangos y rôl anodd sydd gan ein heddlu mewn ardaloedd gwledig”.
Ychwanegodd Janet:
“Rwy'n credu'n gryf y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy at fynd i'r afael â throseddau cefn gwlad. Mae plismona cefn gwlad da yn golygu llawer mwy na nifer y swyddogion heddlu ar lawr gwlad – rhaid i ni geisio ffurfio'r partneriaethau mwyaf effeithiol.
“Rwy'n cynghori'n gryf y dylai Llywodraeth Cymru gysylltu â'r Gweinidog Materion Gwledig a swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o greu ymateb Cymreig cryfach i droseddau cefn gwlad drwy sefydlu Tasglu Troseddau Cefn Gwlad Cenedlaethol i Gymru.”