Mae Aelod o’r Senedd Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - yn galw ar etholwyr o’r gymuned Cymreig-Tsieineaidd - i gynnig eu hunain am wobr newydd sydd wedi’i llunio i gydnabod eu cyflawniadau a’u cyfranogiad at fywyd cenedlaethol.
Mae’r enwebiadau wedi agor nawr ar gyfer The Blossom Awards sy’n ceisio nodi cyflawnwyr llwyddiannus yn y gymuned Cymreig-Tsieineaidd a Phrydeinig-Tsieineaidd, mewn meysydd amrywiol. Mae’r Gwobrau yn cydnabod arwyr di-glod fel athrawon, staff y GIG ac arweinwyr elusennau a’r rhai sydd wedi llwyddo mewn meysydd proffesiynol fel peirianneg, technoleg a busnes.
The Blossom Awards yw’r acolâdau cyntaf erioed i ganolbwyntio’n llwyr ar y Gymuned Cymreig-Tsieineaidd – un o’r grwpiau lleiafrifoedd ethnig mwyaf a mwyaf sefydledig yng Nghymru.
Gellir enwebu nawr hyd ddydd Gwener 12 Mehefin 2020. Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau ar-lein: www.TheBlossomAwards.org.uk.
Wrth siarad am y gwobrau, dywedodd Janet:
“Mae pobl Cymreig-Tsieineaidd yn gwneud gwaith ysbrydoledig mewn cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth i yn Aberconwy. Bydd The Blossom Awards yn rhoi sylw i’w llwyddiant a’u cyfranogiad.
O fusnes a’r celfyddydau, i wyddoniaeth a’r sector elusennau, gobeithio y bydd The Blossom Awards yn galluogi pobl Cymreig-Tsieineaidd i herio canfyddiadau hen ffasiwn am eu hunaniaeth. Cofiwch annog ffrind, perthynas, cymydog neu gydweithiwr sy’n haeddu cael ei gydnabod i enwebu ei hunan.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Croesewir enwebiadau mewn 12 categori Gwobrau: Addysg; yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd; Entrepreneuriaeth; Busnes a Galwedigaethau; Peirianneg a Gwyddoniaeth; y Gwasanaeth Cyhoeddus; Diwylliant, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau; y Gymuned ac Elusennau; Cyflawnwyr Ifanc (dan 30 oed); Bwyd a Lletygarwch; Technoleg a Digidol; y Cyfryngau a Diwydiannau Creadigol.
- Gwahoddir enillwyr i seremoni wobrwyo yng nghanol Llundain tua diwedd Hydref 2020.
- Din ond unigolion all enwebu eu hunain – dim grwpiau.
- Dim ond yr enwebai all gyflwyno enwebiadau ac mae’n rhaid gwneud hynny ar-lein ar y wefan.
- Nid oes ffi nac unrhyw dâl arall i enwebu.