Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy has welcomed the news announced in Wednesday’s budget that Llandudno's Venue Cymru has been awarded £10m.
As part of the levelling up agenda the £10million will be provided to the site for the transformation into an Arts and Conference venue.
It has been recognised that if Llandudno adapts to the evolving conditions in the tourism market and invests accordingly, the high growth scenario could result in the number of day visitors increasing from 2.9m to 4.1m by 2045.
Commenting on the news Janet said:
“This is more good news for North Wales. I am delighted to see the UK Government making investment in Conwy to help boost our local economy that is so vital to many businesses. This announcement also comes after the already £18.6m of investment in critical infrastructure projects throughout the Conwy Valley.
“Venue Cymru attracts visitors from across the UK and around the world, contributing over £30m in economic benefits to local businesses. It is hoped that this investment will contribute to seeing a rise in the revenue of tourism in Llandudno from £388.8m in 2018 to £513.6m by 2045.
“I am grateful to all those who patiently made their case over the years for this investment and I hope that in to the future we can build our great county up to give it the sustained investment it rightly deserves.”
ENDS
Photo: Venue Cymru - Author Steve Daniels
- CC BY-SA 2.0
- File: Venue Cymru (geograph 2150040).jpg
- Created: 28 July 2010
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi croesawu’r newyddion a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddydd Mercher bod Venue Cymru Llandudno wedi derbyn £10m.
Fel rhan o’r agenda ffyniant bro, bydd y £10 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer trawsnewid y safle yn lleoliad ar gyfer y celfyddydau a chynadleddau.
Pe bai Llandudno yn addasu i’r amgylchiadau newidiol yn y farchnad dwristiaeth ac yn buddsoddi yn unol â hynny, cafwyd cydnabyddiaeth y gallai’r senario twf uchel arwain at gynyddu nifer yr ymwelwyr dydd o 2.9m i 4.1m erbyn 2045.
Wrth gynnig sylwadau ar y newyddion, dywedodd Janet:
“Dyma fwy o newyddion da i ogledd Cymru. Rwy’n falch iawn o weld Llywodraeth y DU yn buddsoddi yng Nghonwy i helpu i roi hwb i’n heconomi leol sydd mor hanfodol i lawer o fusnesau. Daw’r cyhoeddiad hwn ar ôl buddsoddiad o £18.6m eisoes mewn prosiectau seilwaith hanfodol ledled Dyffryn Conwy.
“Mae Venue Cymru yn denu ymwelwyr o bob rhan o’r DU ac o amgylch y byd, gan gyfrannu dros £30m o fudd economaidd i fusnesau lleol. Y gobaith yw y bydd y buddsoddiad hwn yn cyfrannu at gynnydd mewn refeniw twristiaeth yn Llandudno o £388.8m yn 2018 i £513.6m erbyn 2045.
“Rwy’n ddiolchgar i bawb a blediodd eu hachos yn amyneddgar dros y blynyddoedd am y buddsoddiad hwn, ac rwy’n gobeithio y gallwn roi hwb i’n sir wych yn y dyfodol i sicrhau’r buddsoddiad parhaus y mae’n ei haeddu.”
DIWEDD