Ar ôl arwain croesholi ar y mater yn ystod cyfarfod Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd yr wythnos diwethaf, mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders AS, wedi annog Llywodraeth Cymru i gyflymu'r broses o gyflwyno strwythurau llywodraethu amgylcheddol hirdymor, gan amlinellu'r ffaith bod Gweinidogion yn "gwastraffu amser ar y mater" ar hyn o bryd.
Daw'r ymyriad yn dilyn ei chymeradwyaeth i flog gan Cyswllt Amgylchedd Cymru lle'r oedd y rhwydwaith ymgyrchu yn dadlau “cymharol ychydig y mae Cymru wedi’i gyflawni” ar y mater o Lywodraethu Amgylcheddol. Rhwydwaith o sefydliadau amgylcheddol, cefn gwlad a threftadaeth anllywodraethol sy'n gweithio ledled Cymru yw Cyswllt Amgylchedd Cymru.
Yn y blog, mae'r rhwydwaith yn nodi:
“Mae bron i bedair blynedd ers i Lywodraeth Cymru addo achub ar y cyfle deddfwriaethol cyntaf i roi egwyddorion amgylcheddol yn gyfraith a chau’r bwlch llywodraethu. Mae’r rhaglen lywodraethu ddiwygiedig yn cynnwys ymrwymiad arall eto i weithio tuag at sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol. Ond, flwyddyn ar ôl diwedd y cyfnod pontio, Cymru bellach yw’r unig ran o’r DU sydd heb unrhyw fesurau statudol ar waith, gan roi un o’r cyfundrefnau llywodraethu amgylcheddol gwannaf inni yng ngorllewin Ewrop."
Yn ystod y cwestiynau cyntaf am y portffolio Newid Hinsawdd ar gyfer 2022, cododd Janet bryderon hefyd ynghylch ariannu gwaith adfer mawndiroedd. Galwodd Mrs Finch-Saunders ar y Gweinidog i ymrwymo i gyflymu unrhyw gais gan Cyfoeth Naturiol Cymru am waith rheoli llifogydd mawndiroedd adferol, o gofio bod cynrychiolydd o'r Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru wedi egluro i gyfarfod diweddar CPG ar Fioamrywiaeth y byddai'n cymryd dros 100 mlynedd i adfer yr holl fawndir yng Nghymru pe baem yn parhau ar y llwybr presennol.
Wrth wneud sylwadau ar ôl y sesiwn, dywedodd Janet:
“Ym mis Mehefin 2021, datganodd y Senedd argyfwng natur. Gwnaethom bleidleisio o blaid cyflwyno gofyniad cyfreithiol rwymol i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Saith mis yn ddiweddarach ac rydyn ni'n dal i aros am gamau gweithredu rhagweithiol, gyda Cyswllt Amgylchedd Cymru yn nodi nad yw hyd a lled a chyflymder y camau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r argyfwng natur ar waith.
“Fel un o'r gwledydd mwyaf diffygiol o ran natur yn y byd, mae angen i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd ar osod targedau a fydd yn sbarduno camau gweithredu ac yn atal degawd coll arall ar gyfer natur. Rhaid cyflwyno strwythurau llywodraethu amgylcheddol newydd fel rhan annatod o'r gwaith hwn.
“Yn ystod y Pwyllgor Newid hinsawdd yr wythnos diwethaf, dywedodd y Gweinidog wrthyf y bydd rhaid i unrhyw waith ar strwythurau llywodraethu amgylcheddol hirdymor aros tan ar ôl trafodaethau cymhleth gyda'u partneriaid yn y glymblaid. Gyda'r Asesydd Dros Dro yn cael contract dwy flynedd yn unig, rydyn ni'n gwastraffu amser ar y mater hwn.
“Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn diweddaru'r amserlen ar gyfer gwaith paratoi ar lywodraethu amgylcheddol, gan ailadrodd arferion gorau gan y cyrff hynny sydd eisoes wedi'u sefydlu yn Lloegr a'r Alban, fel y gallwn gyflymu'r mater hwn mewn modd sy'n cydnabod difrifoldeb yr argyfyngau natur a hinsawdd.
“Mae'n ymddangos yn glir i mi fod cytundeb cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru yn oedi cyflwyno Brexit gwyrdd i Gymru.”
DIWEDD