Heddiw (30 Gorffennaf), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi siarad am ei braw gydag ymchwil newydd sy’n rhybuddio y gallai’r plastig sy’n diweddu yng nghefnforoedd y byd dreblu erbyn 2040, heb weithredu sylweddol i atal y broblem.
Awgryma’r ymchwil newydd y bydd y plastig sy’n llygru’r moroedd yn cynyddu o 11 miliwn tunnell y flwyddyn yn 2016 i 29 miliwn tunnell yn 2040 os nad oes camau’n cael eu cymryd. Mae’r pwnc yn fater cymhleth gan fod eitemau plastig yn cael eu crefftio mewn miloedd o wahanol siapiau, meintiau, mathau polymer a chyfuniadau ychwanegion, ledled y byd.
Gan roi ei sylwadau ar y mater, dywedodd Janet:
“Mae’r ymchwil ddiweddaraf hon ar raddfa bosibl y llygredd plastig a fydd yn y dyfodol yn ein hamgylchedd morol yn frawychus iawn. Law yn llaw â’r ffaith bod 322 eitemau plastig fesul 100 metr o draethau Cymru ar gyfartaledd a bod oddeutu 40% o sbwriel ein cenedl yn tueddu i fod yn gynwysyddion diodydd – yna, mae hyd a lled yr her yn dod yn amlwg iawn.
“Awgryma’r ymchwil hon, os yw gwledydd ond yn mynd ati i wahardd eitemau plastig untro, fel y cynigir gan Lywodraeth Cymru, y byddai hyn ond yn lleihau’r symiau sy’n cyrraedd y cefnforoedd o 7%. Mae hyn yn dangos fod angen arweinyddiaeth benderfynol ac arloesol i drawsnewid y sefyllfa hon mewn ffordd sy’n diogelu’r amgylchedd, yn torri costau ac yn creu swyddi coler werdd newydd.
“Dyma pam y byddai Llywodraeth Cymru dan arweiniad y Ceidwadwyr yn cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal cynwysyddion diodydd - rhywbeth y mae’r Blaid wedi bod yn galw amdano ers 2015. Byddai hyn yn newid system gyfan i’n ffordd o drin ein plastig ac yn gwella prosesau casglu gwastraff yn llwyr.
“Law yn llaw â hyn, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i weithio i ymchwilio i sut i leihau cynhyrchiant plastig, a sut gall Cymru arwain y ffordd wrth ddefnyddio deunyddiau eraill yn lle rhai mathau o blastig. Rwy’n annog y cyhoedd i gyfrannu at ein deiseb ddigidol ar-lein er mwyn cofrestru eu safbwyntiau ar y mater hollbwysig hwn.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Gall y cyhoedd gofrestru eu barn ar y mater hwn yn: https://www.conservatives.wales/campaigns/ban-single-use-plastics-wales-welsh-conservatives-taking-action-stop-plastic-pollution