Janet Finch-Saunders MS/AS is encouraging everyone to visit the “Joy of Small Things” Exhibition at Llandudno Museum this Winter.
The exhibition, created by Hilary Kewley, and directed by Dawn Lancaster, features a stunning collection of doll houses and miniature artworks, each created with incredible attention to detail. The collection includes miniature furniture, fabrics, and accessories, and each piece is a work of art in its own right.
This exhibition is taking place between November 14th 2023 and May 11th 2024, and will be open during regular museum times.
Commenting after visiting the exhibition, Janet said:
“In Wales, we have over 90 museums and art galleries which show off our culture, heritage and history, with millions of admissions annually from local residents and visitors alike. This is due to passionate people like Hilary and Dawn who help to protect our past and take pride in what brought us all here today.
“I thoroughly enjoyed the visit and seeing the joy even the smallest of items bring to visitors.
“The attention to detail is impressive, even down to the miniature plates of food! If you are looking for a fascinating indoor activity this Winter, please do head over to Llandudno Museum”.
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders AS yn annog pawb i ymweld â'r arddangosfa "Joy of Small Things" yn Amgueddfa Llandudno y gaeaf hwn.
Mae'r arddangosfa, a grëwyd gan Hilary Kewley, ac a gyfarwyddwyd gan Dawn Lancaster, yn cynnwys casgliad syfrdanol o dai doliau a gweithiau celf bychain, pob un wedi'i greu gyda sylw anhygoel i fanylder. Mae'r casgliad yn cynnwys dodrefn bach, ffabrigau ac ategolion, ac mae pob darn yn waith celf ynddo'i hun.
Cynhelir yr arddangosfa hon rhwng 14 Tachwedd 2023 a 11 Mai 2024, a bydd ar agor yn ystod amseroedd rheolaidd yr amgueddfa.
Wrth wneud sylwadau ar ôl ymweld â'r arddangosfa, dywedodd Janet:
"Yng Nghymru, mae gennym ni dros 90 o amgueddfeydd ac orielau celf sy'n arddangos ein diwylliant, ein treftadaeth a'n hanes, gyda miliynau o dderbyniadau bob blwyddyn gan drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Ac mae’r diolch i bobl angerddol fel Hilary a Dawn sy'n helpu i ddiogelu ein gorffennol ac yn ymfalchïo yn yr hyn a ddaeth â ni i gyd yma heddiw.
"Fe wnes i fwynhau'r ymweliad yn fawr iawn a gweld y llawenydd y mae hyd yn oed yr eitemau lleiaf yn ei roi ymwelwyr.
"Mae'r sylw i fanylder yn drawiadol, sy’n cynnwys platiau bach o fwyd hyd yn oed! Os ydych chi'n chwilio am weithgaredd dan do hynod ddiddorol y gaeaf hwn, ewch draw i Amgueddfa Llandudno".
DIWEDD