Janet Finch-Saunders MS has highlighted the opportunities presented to councils to save money through innovative new technology.
The Member of the Welsh Parliament for Aberconwy has asked Conwy County Borough Council to explore the results of a trail in Exmouth to utilise heat from a data centre in order to save on heating costs.
Speaking today, Janet said:
“I am very pleased to hear of such an innovative scheme being used to save money.
“The heat being generated by this washing-machine-sized data centre is being used to heat a Devon public swimming pool.
“The computers inside the white box are surrounded by oil to capture the heat enough to heat the pool to about 30C 60% of the time, saving Exmouth Leisure Centre thousands of pounds.
“The data centre is provided to the council-run centre free of charge. Start-up Deep Green charges clients to use its computing power for artificial intelligence and machine learning.
“At a time of rapidly-rising bills, and Conwy County Borough Council levying the highest council tax rise in England and Wales these are the kinds of alternative solutions that council should be exploring.
“I have written to the leader of the council urging CCBC to take note of this success, and to look for other ways to save money and reduce the burden on hard-working taxpayers”.
Mae Janet Finch-Saunders AS wedi tynnu sylw at y cyfleoedd sydd yna i gynghorau arbed arian drwy dechnoleg newydd arloesol.
Mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy wedi gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy edrych ar ganlyniadau arbrawf yn Exmouth i ddefnyddio gwres o ganolfan ddata i arbed costau gwresogi.
Wrth siarad heddiw, dywedodd Janet:
"Rwy'n falch iawn o glywed am gynllun mor arloesol yn cael ei ddefnyddio er mwyn arbed arian.
"Mae'r gwres sy'n cael ei gynhyrchu gan y ganolfan ddata, sydd yr un maint â pheiriant golchi, yn cael ei ddefnyddio i wresogi pwll nofio cyhoeddus yn Nyfnaint.
"Mae'r cyfrifiaduron y tu mewn i'r blwch gwyn wedi eu hamgylchynu gan olew er mwyn cipio’r gwres, sy’n ddigon i gynhesu'r pwll i tua 30C 60% o'r amser, gan arbed miloedd o bunnoedd i Ganolfan Hamdden Exmouth.
"Mae'r ganolfan ddata yn cael ei darparu i'r ganolfan hamdden sy'n cael ei rhedeg gan y cyngor am ddim. Mae busnes newydd Deep Green yn codi tâl ar gleientiaid i ddefnyddio ei bŵer cyfrifiadura ar gyfer deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol.
"Mewn cyfnod lle mae biliau'n codi'n gyflym, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyflwyno’r cynnydd mwyaf mewn treth cyngor yng Nghymru a Lloegr, dyma'r mathau o atebion amgen y dylai'r cyngor fod yn eu hystyried.
"Rwyf wedi ysgrifennu at arweinydd y cyngor yn eu hannog i gymryd sylw o'r llwyddiant hwn, ac i chwilio am ffyrdd eraill o arbed arian ac ysgafnhau'r baich ar drethdalwyr sy'n gweithio'n galed".
DIWEDD/ENDS
Attached: Letter to Conwy County Borough Council