Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy has echoed her concern upon hearing the worrying testimony of Richard Pugh, head of partnerships for Macmillan Cancer Support in Wales on the state of cancer support in Wales.
Richard has said that our Welsh NHS is consistently “failing to offer the timely care cancer patients desperately need”. This is something that in North Wales Janet is all too aware of with the Betsi Cadwaladr Health Board continually failing patients with long waiting times, under staffing and unsafe discharges.
Back in March Digital Health and Care Wales reported that the Betsi Health Board was only starting 55% of treatments within the target and that it takes on average 76 days from the point of suspicion to the patient being informed whether or not they have cancer.
This is compared to England where waiting times are considerably shorter, with just over 5% of patients waiting more than a year, compared to 20.8% in Wales.
Commenting on the news Janet said:
“Sadly this is becoming a reoccurring problem. The Welsh NHS are consistently missing targets and failing the people of Wales.
“Dealing with cancer, whether that be our own or a family or friends, is one of the most stressful times in our lives. We need the peace of mind that our doctors and nurses are going to be able to help us quickly and efficiently.
“This is not happening in Wales and nowhere is this more prominent than in North Wales where for example I have had a constituent forced to wait 2 months for her MRI scan results for breast cancer.
“It is utterly unacceptable and we are facing a cancer crisis in Wales. The Health Cabinet Secretary and freshly reshuffled Welsh Government have an opportunity here to get a grip and formulate an action plan that will see positive meaningful change.
“Meaningful change that improves waiting times and staffing levels. This is why I hope they endorse our Welsh Conservatives proposal to enact a substantial workforce plan with a tuition fee refund for healthcare workers at its heart.”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy wedi ategu ei phryder wrth glywed tystiolaeth bryderus Richard Pugh, pennaeth partneriaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru ar gyflwr cymorth canser yng Nghymru.
Mae Richard wedi dweud bod ein GIG yng Nghymru yn “methu cynnig gofal amserol mawr ei angen ar gleifion canser” yn gyson. Mae hyn yn rhywbeth y mae Janet yn ymwybodol iawn ohono yn y Gogledd gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn methu cleifion yn barhaus gydag amseroedd aros hir, staffio annigonol a rhyddhau cleifion yn anniogel.
Nôl ym mis Mawrth dywedodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru mai dim ond 55% o driniaethau yr oedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn eu cychwyn o fewn y targed a'i fod yn cymryd 76 diwrnod ar gyfartaledd o'r pwynt o amau canser i'r claf yn cael gwybod a oes ganddo ganser ai peidio.
Cymharer hyn â Lloegr lle mae amseroedd aros gryn dipyn yn fyrrach, gydag ychydig dros 5% o gleifion yn aros mwy na blwyddyn, o'i gymharu ag 20.8% yng Nghymru.
Wrth sôn am hyn dywedodd Janet:
“Yn anffodus, mae hon yn troi’n broblem gyson. Mae GIG Cymru yn methu targedau yn gyson ac yn methu pobl Cymru.
“Mae ymdopi â chanser, boed yn digwydd i ni neu deulu neu ffrindiau, yn un o'r adegau mwyaf dirdynnol yn ein bywydau. Mae angen y tawelwch meddwl arnom y bydd ein meddygon a'n nyrsys yn gallu ein helpu yn gyflym ac yn effeithlon.
“Nid yw hyn yn digwydd yng Nghymru ac mae hyn i’w weld fwyaf amlwg yn y Gogledd lle mae etholwr wedi gorfod aros am ddau fis am ei chanlyniadau sgan MRI ar gyfer canser y fron.
“Mae'n gwbl annerbyniol ac rydym yn wynebu argyfwng canser yng Nghymru. Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Llywodraeth Cymru, sydd newydd gael ei had-drefnu, gyfle yma i gymryd yr awenau a ffurfio cynllun gweithredu a fydd yn arwain at newid ystyrlon cadarnhaol.
“Newid ystyrlon sy'n gwella amseroedd aros a lefelau staffio. Dyna pam rwy'n gobeithio y byddant yn cymeradwyo cynnig y Ceidwadwyr Cymreig i roi cynllun gweithlu sylweddol ar waith gydag ad-daliad ffioedd dysgu i weithwyr gofal iechyd wrth ei wraidd.”
DIWEDD