Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has disclosed that none of the hotels/guest houses/and bed and breakfasts currently used by Conwy County Borough Council have successfully applied for change of use/planning permission to be a house in multiple occupation.
The disclosure comes as the Member received responses to freedom of information requests which also unearthed that:
- The spend on hotels/guest houses/and bed and breakfasts used by the Local Authority as temporary accommodation in 2021/22 was £3,193,636
- The predicted spend on hotels/guest houses/and bed and breakfasts used by the Local Authority as temporary accommodation in 2022/23 is in the region of £4 million
- 19 hotels/guest houses/and bed and breakfasts are being used by the Local Authority as temporary accommodation
- 19 of the hotels/guest houses/and bed and breakfasts used by the Local Authority as temporary accommodation have signed a formal contract with the Local Authority
Commenting on the use of temporary accommodation in Conwy County, Janet said:
“As it stands the Local Authority is overseeing a major increase in the use of taxpayers’ money to house the homeless in hotels. The spend has jumped 230% from around £1.2m in 2019/20 to £4m in 2022/23.
“On almost a daily basis, I hear of residents who have been stuck in so called temporary accommodation for months on end.
“When considering that the individuals are residing there permanently, unlike people staying in a hotel; and that these hotels are people’s home, because they have no other home to go, I believe that enforcement officers should investigate the use of the 19 hotels/guest houses/and bed and breakfasts as temporary accommodation so to establish if their use is in breach of Planning Law.
“As it stands, Welsh Labour and Plaid Cymru cooperation at both Conwy Cabinet and Welsh Government levels are overseeing a worsening of the local housing crisis.
“A report prepared for the Conwy coalition Cabinet made clear that demand in Conwy County is increasing largely due to private rented sector evictions, so it is common sense that the Council make clear to their friends in the Welsh Labour and Plaid Cymru co-operation Welsh Government that the Renting Homes Wales Act should be suspended.
“At the end of the day, local residents want homes not hotel rooms to stay in, so in addition to the Local Authority Cabinet joining with me in pressurising the Welsh Labour and Plaid Cymru cooperation Government to suspend the Act which is causing the tsunami of landlords to leave the private rented sector, they need to cooperate with housing associations and private developers so to see planning applications come forward urgently to build housing on land allocated for building in the Local Development Plan”.
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi datgelu nad oes yr un o'r gwestai/tai llety/a'r llety gwely a brecwast a ddefnyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar hyn o bryd wedi gwneud cais llwyddiannus am newid defnydd/caniatâd cynllunio i fod yn dŷ amlfeddiannaeth.
Daw'r datgeliad wrth i'r Aelod dderbyn ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth a ddatgelodd hefyd:
- Gwariwyd £3,193,636 ar westai/tai llety/a llety gwely a brecwast a ddefnyddiwyd gan yr Awdurdod Lleol fel llety dros dro yn 2021/22
- Mae'r gwariant a ragwelir ar westai/tai llety/a llety gwely a brecwast a ddefnyddir gan yr Awdurdod Lleol fel llety dros dro yn 2022/23 oddeutu £4 miliwn
- Mae 19 o westai/tai llety/a llety gwely a brecwast yn cael eu defnyddio gan yr Awdurdod Lleol fel llety dros dro
- Mae 19 o'r gwestai/tai llety/a'r llety gwely a brecwast a ddefnyddir gan yr Awdurdod Lleol fel llety dros dro wedi llofnodi contract ffurfiol gyda'r Awdurdod Lleol
Wrth sôn am ddefnyddio llety dros dro yn Sir Conwy, dywedodd Janet:
"Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae'r Awdurdod Lleol yn goruchwylio cynnydd mawr yn y defnydd o arian trethdalwyr i gartrefu'r digartref mewn gwestai. Mae'r gwariant wedi neidio 230% o tua £1.2m yn 2019/20 i £4m yn 2022/23.
"Yn ddyddiol bron, rwy'n clywed am drigolion sydd wedi gorfod aros yn yr hyn a elwir yn llety dros dro am fisoedd maith.
"Wrth ystyried bod yr unigolion hyn yn byw yno'n barhaol, yn wahanol i bobl sy'n aros mewn gwesty; a bod y gwestai hyn yn gartrefi i bobl, oherwydd nad oes ganddyn nhw gartref arall i fynd iddo, credaf y dylai swyddogion gorfodi ymchwilio i'r defnydd o'r 19 gwesty/tŷ llety/a llety gwely a brecwast fel llety dros dro er mwyn pennu a yw eu defnydd yn torri'r Gyfraith Gynllunio.
“Ar hyn o bryd, mae’r cydweithredu rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yng nghabinet Conwy a Llywodraeth Cymru yn goruchwylio argyfwng tai lleol sy'n gwaethygu.
"Pwysleisiodd adroddiad a baratowyd ar gyfer Cabinet clymblaid Conwy bod y galw yn Sir Conwy yn cynyddu'n bennaf yn sgil pobl yn cael eu troi allan o'r sector rhent preifat, felly mae’n synnwyr cyffredin bod y Cyngor yn ei gwneud hi’n glir i'w cyfeillion yn Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru y dylid atal Deddf Rhentu Cartrefi Cymru.
"Ar ddiwedd y dydd, mae'r trigolion lleol eisiau cartrefi nid ystafelloedd gwesty i aros ynddyn nhw, felly yn ogystal â'r Cabinet Awdurdod Lleol yn ymuno â mi i bwyso ar Lywodraeth Llafur Cymru a Phlaid Cymru i atal y Ddeddf sy'n achosi i'r tswnami o landlordiaid adael y sector rhentu preifat, mae angen iddyn nhw gydweithredu â chymdeithasau tai a datblygwyr preifat i sicrhau bod ceisiadau cynllunio’n cael eu cyflwyno ar unwaith i godi tai ar dir sydd wedi'i glustnodi ar gyfer adeiladu yn y Cynllun Datblygu Lleol".