Mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi gweld Gweinidog Iechyd Cymru yn cyfaddef bod ei chwestiwn ynghylch gofal cartref yn peri pryder mawr iddo ac i’r Dirprwy Weinidog. Gwnaed y sylw mewn ymateb i gais Mrs Finch-Saunders yn ystod y Cyfarfod Llawn am i’r Gweinidog egluro pam nas oes monitro o ran COVID-19 na data yn cael ei gasglu ar y rhai sy’n derbyn gofal cymdeithasol yn eu cartrefi eu hunain.
Yn siarad ar ôl i’r Gweinidog gydnabod pryderon ynghylch gofal cartref, dywedodd Janet:
“Darperir gofal cartref i rai o bobl fwyaf bregus cymunedau Cymru.
“Dros ddeg wythnos ers dechrau’r cyfyngiadau symud, mae’n gywilyddus nad oes data yn cael ei gasglu ac ar gael ar nifer y profion ar staff gofal cartref a’u cleientiaid.
“Ymddengys bod hon yn rhan o’n cymdeithas sydd wedi’i hanghofio, gan roi’r rhai sy’n derbyn ac yn darparu’r gofal mewn perygl.
“Mae’r ffaith bod y Gweinidog Iechyd wedi cyfaddef fod hyn yn rhywbeth sy’n ei boeni ef a’i ddirprwy a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa.
“Mae problem ynghylch trosglwyddo Covid-19 ac mae angen gweithredu ar unwaith i ddiogelu gweithwyr allweddol a phobl sy’n dibynnu ar ofal yn eu cartrefi eu hunain.
“Rwyf wedi annog Gweinidogion Cymru dro ar ôl tro i sicrhau bod yr un chwarae teg i bawb mewn perthynas â phrofion, beth bynnag fo’r lleoliad neu faint y gymuned. Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru wneud mwy i brofi a diogelu staff a chleifion gofal cartref”.
DIWEDD