Heddiw (14 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried gosod moratoriwm dros dro ar unedau dofednod newydd o gwmpas afon Gwy, wrth i gynllun gweithredu newydd gael ei ystyried.
Gan roi sylwadau ar ôl ei chwestiynau i Weinidog Cymru, dywedodd Janet:
“Er fy mod yn croesawu’r ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal adolygiad manwl o ddata i gael gwell dealltwriaeth o achosion blymau algaidd yn y Gwy, dim ond ar ôl i 77,000 o bobl lofnodi deiseb ym mynnu moratoriwm ar unrhyw unedau dofednod newydd yn yr ardal y gwnaed y gwaith hwn.
“Yn ôl Sefydliad Gwy ac Wysg, dywedodd CNC mewn cyfarfod cyhoeddus yr wythnos diwethaf eu bod yn disgwyl i’w hadolygiad ddangos bod lefelau ffosffad yng Ngwy Uchaf wedi bod yn uwch na’r lefel a ganiateir ers o leiaf bedair blynedd.
“Gan wybod hyn, rwy’n siomedig iawn gydag ymateb difater Llywodraeth Cymru i’m cwestiynau yn sesiwn cyfarfod llawn y Senedd heddiw.
“Felly, gofynnaf eto, pa gamau brys y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â lefel y ffosffadau yn afon Gwy, ac a fydd y mesurau hynny yn cynnwys moratoriwm dros dro?
“Rwy’n bryderus iawn am effaith yr achosion hyn o lygredd ar gysylltiadau lleol gyda’n ffermwyr. Wedi’r cwbl, mae ein cynhyrchwyr dofednod yn cael eu monitro a’u harchwilio’n rheolaidd.
“Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y gwelliannau perthnasol i seilwaith er mwyn galluogi’r cynhyrchwyr hyn i barhau gyda’u gwaith hanfodol a chymryd camau i fynd i’r afael â materion fel tymheredd dŵr cynnes a gwaith carthffosiaeth hefyd.”
DIWEDD
Ffotograff gan Andrew Buchanan ar Unsplash