Mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi gofyn i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r gostyngiad yng nghyfradd cwblhau tai Cymru drwy fabwysiadu datrysiadau technoleg werdd.
Defnyddiodd Mrs Finch-Saunders araith gerbron sesiwn Cyfarfod Llawn rhithwir y Senedd i annog y weinyddiaeth i beidio â rhwystro mentrau adeiladu cartrefi newydd arloesol, gan gynnwys gweithgynhyrchu oddi ar y safle a reolir gan gyfrifiadur. Daeth ei haraith yn ystod Wythnos Newid Hinsawdd Cymru 2020. Mae bron i hanner cleientiaid y diwydiant adeiladu yn disgwyl gweld cynnydd mewn adeiladu oddi ar y safle yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Meddai Janet:
“Trist iawn yw gweld bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu â mynd i’r afael ag argyfwng tai’r genedl. Mae ystadegau’r trydydd chwarter wedi datgelu bod gostyngiad o 17% wedi bod mewn cofrestriadau tai newydd ledled Cymru, o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Roedd gostyngiad o 5% hefyd yn y tai newydd a gafodd eu cwblhau, wrth gymharu o flwyddyn i flwyddyn.
“Gellir mynd i’r afael â’r mater hwn drwy fabwysiadu mentrau adeiladu tai newydd arloesol, gan gynnwys gweithgynhyrchu oddi ar y safle dan reolaeth gyfrifiadurol. Ond mae Llywodraeth Cymru yn ein rhwystro rhag gwneud hyn. Mae pedwar cant o dai fforddiadwy MMC (Dulliau Adeiladu Modern) i fod i gael eu hadeiladu’r flwyddyn nesaf, ond deallaf fod landlordiaid cymdeithasol wedi cyflwyno cynigion IHP yn cynnwys dros 850 o gartrefi MMC.
“Pam nad yw’r ceisiadau hyn yn fwy llwyddiannus? Dylem ddangos y ffordd ymlaen i’r byd o ran darparu cartrefi MMC fforddiadwy, gan gymysgu technoleg newydd gyda deunyddiau traddodiadol, er mwyn i’r adeiladau hyn gyfrannu at gefnogi a hyrwyddo adnoddau o Gymru, fel llechi a gwlân.
“Trwy gefnogi mentrau technegol arloesol sy’n creu cartrefi sy’n garbon niwtral neu’n garbon oddefol, gellir mynd i’r afael â’r pryder am y stoc tai ar unwaith. Mae’n rhaid gwneud yn lle dim ond dweud. Gallai hefyd fod yn achubiaeth economaidd wrth i ni adfer ar ôl y Coronafeirws, gan ein bod ni’n gwybod fod y pandemig wedi effeithio’n fawr ar ein hoedolion ifanc a’n prentisiaid.
“Yn wir, fe wnaeth Sefydliad Siartredig Tai Cymru alw am strategaeth gweithlu i ddiogelu dyfodol y sector tai. Trwy fabwysiadu’r datrysiadau technolegol hyn ymhellach, byddwn yn cynnig swyddi coler werdd hirdymor, gan helpu gweithwyr i ddatblygu pob math o sgiliau newydd, gan sicrhau bod Cymru’n barod ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Am ragor o wybodaeth am ddata Ch3 y stoc tai, cliciwch yma.
- Mae trawsgrifiad o araith Janet ar gael yma.
Ffoto: Ffoto Sandy Millar ar Unsplash