I nodi Wythnos Newid Hinsawdd Cymru 2020 ymhellach, heddiw (05 Tachwedd) mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi galw am esboniad am ymagwedd Llywodraeth Cymru at ynni dŵr.
Mewn Cwestiynau Ysgrifenedig i’r Gweinidog, gofynnodd Mrs Finch-Saunders:
Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i hybu ynni dŵr yng Nghymru mewn ymateb i’r ffaith mai dim ond pum prosiect ynni dŵr a gomisiynwyd yn 2019?
Datgelodd yr adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru mai dim ond pum prosiect newydd a gomisiynwyd yn 2019. Roedd hyn yn ostyngiad ar y chwe phrosiect a gomisiynwyd yn 2018. Datgelodd yr adroddiad bod y prosiectau newydd hyn wedi cynyddu’r cyfanswm capasiti ynni dŵr gan lai na 0.2% rhwng 2018 a 2019.
Meddai Janet:
“Mae’r adroddiad hwn yn peri gofid mawr i mi ar ôl iddo ddatgelu bod nifer y prosiectau ynni dŵr a gomisiynwyd yn 2019 wedi gostwng ers y flwyddyn flaenorol. Unwaith eto, mae’n enghraifft o laesu dwylo yma gan Lywodraeth Llafur Cymru sy’n effeithio ar ein brwydr yn erbyn newid hinsawdd byd-eang.
“Dylai pawb ofidio bod y cynnydd yn y maes hwn wedi hitio wal, yn enwedig wrth ystyried bod ynni dŵr yn dechnoleg aeddfed a phrofedig sy’n gallu darparu ffynhonnell ynni ragweladwy. Mae hefyd yn ffynhonnell ynni ddomestig, sy’n golygu y gall Cymru ddal ati i allforio trydan.
“Mae’r cynlluniau hyn yn effeithlon iawn yn aml, gyda rhai cyfleusterau ynni dŵr â’r gallu i fynd o gynhyrchu dim pŵer i gynhyrchu llawer iawn o fewn chwinciad. Gan fod safleoedd ynni dŵr yn gallu cynhyrchu pŵer i’r grid ar unwaith, maen nhw hefyd yn gallu darparu pŵer wrth gefn hollbwysig sy’n gallu cefnogi’r rhwydwaith grid ymhellach.
“Gyda dros 600 o gyrsiau dŵr yn tywys dŵr ledled Cymru, gellir cyflawni llawer drwy annog buddsoddiad mewn cynlluniau ynni dŵr micro, pico a bach. Dylai Llywodraeth Cymru geisio cyflwyno rhaglen datblygu ynni dŵr sy’n helpu tirfeddianwyr i fuddsoddi mewn prosiectau o’r fath.
“Mae’n rhaid rhoi sicrwydd i’r cyhoedd y bydd camau amlwg yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â Newid Hinsawdd, yn hytrach na rhoi hanner addewidion digon gwag iddynt.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
Ffoto: Andrew Buchanan/UnSplash