In response to increasing concerns being raised by Llandudno residents, Janet Finch-Saunders MS is hosting a public meeting at Llandudno Town Hall at 18:00pm on 7 July 2023.
It is essential that all wishing to attend contact the Member of the Welsh Parliament so to reserve a seat. She can be called on 01492 871198 or emailed on [email protected]
Whilst the purpose of the meeting is to give residents a platform to raise matters of relevance to them, it is already expected that anti-social behaviour, restoration of sand on North Shore beach, the goat management plan, and Llandudno Hospital will be topics of discussion.
Speaking ahead of the meeting, Janet said:
“I have organised the meeting so to give residents a greater opportunity to raise matters that are of importance to them.
“It has become apparent that there are increasing concerns about several matters here in Llandudno, such as in relation to anti-social behaviour.
“Like myself, so many in the community want the best for the town. As such, I am confident that the meeting will deliver a healthy discussion ”.
ENDS
Mewn ymateb i bryderon cynyddol sy'n cael eu codi gan drigolion Llandudno, bydd Janet Finch-Saunders AS yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Dref Llandudno am 18:00pm ar 7 Gorffennaf 2023.
Mae'n hanfodol bod pawb sy'n dymuno bod yn bresennol yn cysylltu â’r Aelod o’r Senedd er mwyn cadw lle. Gellir ei ffonio ar 01492 871198
neu e-bostio [email protected]
Er mai diben y cyfarfod yw rhoi llwyfan i drigolion godi materion sy'n berthnasol iddyn nhw, disgwylir eisoes y bydd y pynciau canlynol yn destunau trafod: ymddygiad gwrthgymdeithasol, adfer tywod ar Draeth y Gogledd, y cynllun rheoli geifr, ac Ysbyty Llandudno.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Janet:
"Rwyf wedi trefnu'r cyfarfod er mwyn rhoi cyfle gwell i drigolion grybwyll materion sydd o bwys iddyn nhw.
"Mae wedi dod i'r amlwg bod pryderon cynyddol am sawl mater yma yn Llandudno, er enghraifft ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mae cymaint yn y gymuned eisiau'r gorau i'r dref, yn union fel fi. Dyna pam fy mod yn hyderus y bydd y cyfarfod yn sbarduno trafodaeth iach ".
DIWEDD