With several important seabird colonies in north Wales being affected by a recent upsurge in cases of Highly Pathogenic Avian Influenza (bird flu), Janet Finch-Saunders MS, is encouraging residents to report any sightings of dead birds to Defra.
Reports can be made online and by calling 03459 33 55 77. Sick or injured wild birds should be reported to RSPCA (in Wales and England) on 0300 1234 999, who may be able to offer assistance.
Do not touch or pick up any dead or visibly sick wild birds that you find.
Commenting on the impact of bird flu on wildlife, Janet said:
“There are increasing reports of dead birds being washed up on beaches off the western coast of Anglesey, and members of the public are advised to not touch or pick up any dead or visibly sick wild birds.
“If you spot a sick or injured bird, please contact RSPCA. Should the animal have died, it is important that you report it to Defra and do not pick it up.
“Seabirds are a key indicator of the overall health of marine ecosystems so please continue to report any deceased wildlife you find”.
ENDS
Gyda sawl cytref o adar môr pwysig yn y Gogledd wedi'u heffeithio gan gynnydd diweddar mewn achosion o ffliw adar pathogenig iawn (ffliw adar), mae Janet Finch-Saunders AS yn annog trigolion i roi gwybod i DEFRA am unrhyw adar marw.
Gallwch riportio ar-lein a thrwy ffonio 03459 33 55 77. Dylech adrodd am adar gwyllt sâl neu wedi’u hanafu i'r RSPCA (yng Nghymru a Lloegr) ar 0300 1234 999, a allai gynnig cymorth.
Os dowch chi ar eu traws, peidiwch byth â chyffwrdd na chodi unrhyw adar gwyllt marw neu rai sy'n amlwg yn sâl.
Wrth sôn am effaith ffliw adar ar fywyd gwyllt, dywedodd Janet:
“Mae mwy a mwy o adroddiadau am adar marw yn cael eu golchi i'r lan ar draethau gorllewinol Môn, a chynghorir aelodau'r cyhoedd i beidio â’u cyffwrdd na chodi unrhyw adar gwyllt marw neu sy'n amlwg yn sâl.
“Os gwelwch chi aderyn sâl neu wedi'i anafu, cysylltwch â'r RSPCA. Os yw'r anifail wedi marw, mae'n bwysig gadael llonydd iddo a chysylltu â DEFRA.
“Mae adar môr yn ddangosydd allweddol o iechyd cyffredinol ecosystemau morol felly daliwch ati i adrodd am unrhyw achos o fywyd gwyllt wedi marw."
DIWEDD