Heddiw (24 Medi), mae Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu creu swyddi gwyrdd hirdymor ym mhob cynnig adferiad gwyrdd.
Daw hyn wedi i Gadeirydd Tasglu Adferiad Gwyrdd Llywodraeth Cymru ddatgan bod yn rhaid mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac adferiad y Coronafeirws ar y cyd. Yn ôl adroddiadau, mae’r tîm wedi derbyn mwy na 180 o syniadau ar gyfer polisïau a phrosiectau ac ar hyn o bryd yn penderfynu pa rai i’w datblygu. Bydd y tasglu’n adrodd i Weinidog Amgylchedd Cymru, Lesley Griffiths AS, yn ddiweddarach yn yr hydref.
Dywedodd Gweinidog yr Wrthblaid:
“Mae newid yn yr hinsawdd ymhlith heriau mwyaf ein hoes. Mae adferiad COVID-19 ein cenedl yn cynnig cyfle heb ei ail i helpu i ysgogi creu swyddi coler werdd hirdymor a fydd yn helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau allyriadau carbon yn fwy effeithiol yn y blynyddoedd i ddod.
“Gall cynigion ar gyfer ffermydd gwynt arloesol ar y môr, a fyddai’n cael eu lleoli tua 45km i ffwrdd o’r arfordir, gynhyrchu dros 3,000 o swyddi gwyrdd hirdymor. Cynlluniau cydweithredol fel hyn y mae’n rhaid eu blaenoriaethu drwy gydol unrhyw gyfnod adfer o’r Coronafeirws.
“Rwy’n bendant bod yn rhaid i greu swyddi coler werdd fod wrth wraidd unrhyw gynigion a gyflwynir gerbron Llywodraeth Cymru gan Dasglu Adferiad Gwyrdd Cymru. Dim ond drwy rymuso busnesau a chrewyr swyddi y bydd Cymru’n cyflawni ei rhwymedigaethau hinsawdd yn effeithiol.
“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i bwyso am arweiniad mentrus ac arloesol ar yr argyfwng hinsawdd presennol, gan gynnwys cynlluniau synhwyrol wedi’u targedu sy’n rhoi busnes yn gyntaf ac sy’n helpu i feithrin swyddi coler werdd a lleihau allyriadau.”
DIWEDD