Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru heddiw (25 Mehefin) i sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn ysgwyddo'r baich o dalu am y rhaglen Tracio, Olrhain a Diogelu. Daeth ei hymyriadau ar ôl i ffigurau ddatgelu y gallai cynghorau Cymru wynebu diffyg o tua £173 miliwn, drwy golli incwm a chynnydd mewn costau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi awgrymu hefyd bod perygl y bydd y clwyf yn bwrw cysgod hir dros wasanaethau lleol hanfodol am flynyddoedd i ddod.
Meddai Janet wrth drafod y mater:
“Mae ein Hawdurdodau Lleol wedi gwneud eu gorau glas i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol arferol a sicrhau eglurder i drigolion o dan amgylchiadau heb eu tebyg yn ystod pandemig COVID-19.
“Yn rhy aml yn ystod y cyfnod hwn, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu'n anghyfrifol at wariant llywodraeth leol drwy newid y cyfrifoldeb am ddarparu rhaglenni polisi ar raddfa fawr.
“Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru addo na fydd ein Hawdurdodau Lleol yn ysgwyddo'r bil wrth helpu i weithredu'r polisi Tracio, Olrhain a Diogelu.
“Y ffaith drist amdani yw bod Awdurdodau Lleol ledled Cymru yn wynebu ansicrwydd ariannol. Rhaid i Weinidogion Llywodraeth Cymru ddarparu sicrwydd hirdymor ar frys i gefnogi ein cynghorau mewn cyfnod o golli incwm a chynnydd mewn gwariant o ganlyniad i'r Coronafeirws.”
DIWEDD