Wrth sôn am y stori newyddion y gallai rhai gweithwyr allweddol dderbyn cyn lleied â £125 o'r £500 o fonws a gynigwyd gan y Prif Weinidog y mis diwethaf, dywedodd Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog yr Wrthblaid dros Ofal Cymdeithasol:
“Dyma dystiolaeth bellach fod bwriadau da'r Prif Weinidog wedi'u gwneud heb gyfeirio at Gyllid a Thollau ei Mawrhydi a heb unrhyw ystyriaeth wirioneddol i ddeall a fyddai'n effeithio ar unrhyw fudd-daliadau mae'r gweithwyr gwerthfawr a hanfodol hyn yn eu derbyn.
“Fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru chwifio £500 o flaen eu trwynau, a nawr, dylent feddwl sut i gadw at y bwriad o roi'r swm llawn i bob derbyniwr.”
DIWEDD