Heddiw (12 Tachwedd), mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi croesawu dynodi Ardal Atal Ffliw Adar Cymru gyfan, dan Erthygl 6 Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006. Bydd yr Ardal Atal ar waith o 17:00 ar 11 Tachwedd 2020.
Bydd yr Ardal Atal yn ei gwneud yn ofynnol i bob ceidwad dofednod neu adar eraill sy’n cael eu cadw, sut bynnag maen nhw’n cael eu cadw, i gymryd camau ymarferol i gyflwyno mesurau bioddiogelwch trylwyr, gan gynnwys sicrhau bod y mannau lle cedwir yr adar ddim yn denu adar gwyllt trwy gael gwared ar ffynonellau bwyd adar gwyllt; lleihau symudiadau pobl i mewn ac allan o lociau adar; a diheintio esgidiau a chadw ardaloedd lle mae adar yn byw yn lân a thaclus.
O dan y mesurau hyn, bydd angen i geidwaid gyda mwy na 500 o adar gymryd mesurau bioddiogelwch ychwanegol, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad pobl nad ydyn nhw’n hanfodol, newid dillad ac esgidiau cyn mynd i mewn i’r llociau adar a glanhau a diheintio cerbydau.
Meddai Janet:
“Rwy’n croesawu’r datganiad am Ardal Atal Ffliw Adar Cymru gyfan, fel cam priodol sy’n adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa.
“Bydd y datganiad hwn yn pwysleisio pwysigrwydd adolygu mesurau bioddiogelwch, i holl geidwaid adar Cymru, gan ddilyn y canllawiau a gyflwynir gan bedwar Prif Swyddog Milfeddygol y DU. Trwy sicrhau bod ein hadar yn cael eu cadw’n ddiogel mewn amgylchedd saff a glân, gallwn leihau’r bygythiad a chynnal iechyd adar.
“Mae’n rhaid i mi bwysleisio bod gan y DU fesurau monitro cadarn ar waith i helpu i atal clefyd o’r fath rhag lledaenu, ac mae’r risg o drosglwyddo feirysau ffliw adar i’r cyhoedd yn y DU yn parhau yn isel iawn. Mae hefyd yn bwysig nodi nad oes cysylltiad rhwng y Ffliw Adar a Covid-19.
“Rwy’n erfyn ar geidwaid adar Cymru i archwilio gofynion a chanllawiau’r Ardal Atal Ffliw Adar ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd am i’n ceidwaid fod yn wyliadwrus o arwyddion o’r clefyd a dylid rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw achosion sy’n cael eu hamau.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- I weld datganiad i’r wasg cynharach Janet ar y mater, cliciwch yma.
Ffoto: sippakorn yamkasikorn ar Unsplash