Wrth barhau i archwilio llwybrau i gefnogi'r chwyldro diwydiannol gwyrdd yn y Gymru wledig, mae Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd a’r Aelod o Senedd dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders AS, wedi annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar ddiddordeb cyffredin mewn microgridiau drwy gyflwyno treial yma yn y Gogledd.
Grid ynni lleol â gallu rheoli yw microgrid, sy'n golygu y gall ddatgysylltu o'r grid traddodiadol a gweithredu'n annibynnol. Mae microgrid nid yn unig yn darparu cymorth wrth gefn i'r grid mewn argyfwng, ond hefyd mae modd i ddefnyddio i dorri costau, neu i gysylltu ag adnodd lleol sy'n rhy fach neu annibynadwy at ddefnydd traddodiadol o'r grid.
Mewn ymateb i Gwestiwn Ysgrifenedig ar gynnig Gweinidog yr Wrthblaid, atebodd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gadarnhaol gan ddweud bod microgridiau yn debygol o fod yn elfen bwysig o system ynni lleol glyfar ac yn gyfle i lywio manteision cymdeithasol ac economaidd ar lawr gwlad.
Wrth sôn am yr angen i harneisio potensial yn y Gogledd, meddai Janet:
“Mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ym Mae Caerdydd wedi cydnabod ers tro bod Cymru'n parhau i brofi argyfwng o ran capasiti’r grid - mater a godais yn ystod y Senedd flaenorol a'r Senedd bresennol. Mae hyn yn achosi i'r system fethu’n ddiangen sy'n atal cynnydd ystyrlon a hirdymor yn chwyldro diwydiannol gwyrdd y genedl.
“Er 'mod i'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu gweithgor i adolygu opsiynau ar gyfer cefnogi cysylltiadau grid hyblyg ar gyfer ynni adnewyddadwy ac atebion storio ynni, mae angen gweithredu ar fyrder fel y gallwn helpu i feithrin oes newydd o gamau gweithredu adnewyddadwy mewn cymunedau gwledig ac arfordirol.
“Dyma pam rwyf wedi cynnig sefydlu treial microgrid yng Ngogledd Cymru. Bydd hyn yn gofyn am gydweithrediad ag asiantaethau amrywiol.
“Byddai treial o'r fath nid yn unig yn cyd-fynd â Strategaeth Ynni Gogledd Cymru, sy'n cynnwys eu datblygiad fel maes blaenoriaeth, ond hefyd yn ddefnydd llawer doethach o arian cyhoeddus na'r cynnig i greu cwmni ynni dan eiddo cyhoeddus a allai wneud dim mwy nag efelychu'r camgymeriadau costus a welwyd ym Mryste.”
DIWEDD
Ffotograff: gan Thomas Kelley ar Unsplash