Following the tragic death of a young man in October last year, a series of road safety measures are now planned for Conway Road, Llandudno.
The campaign to improve road safety has been led by Janet Finch-Saunders, the local Member of the Welsh Parliament, who has recently met on site with members of North Wales Police (NWP) and Conwy County Borough Council (CCBC).
At the site meeting it was agreed that:
- Conway Road will reduce from 40 mph to 30 mph in September
- NWP will conduct further speed surveys once the new speed limit is in place
- CCBC will investigate adjustment to the radar speed camera currently in operation so that it displays either a capped speed or a safety message once the speed limit is exceeded, rather than the drivers’ actual speed
- CCBC is working in partnership with Transport for Wales towards Active Travel improvements which will impact Conway Road.
Commenting on progress being made, Janet said:
“It is great to hear that much needed highway safety improvements are being made.
“Whilst I still believe that a speed camera is essential, I am confident that the list of actions I have secured so far is still going to have a positive impact.
“Residents can be reassured that I will continue to act on this case until such a time that the highway is better for all users”.
ENDS
Photo:
Janet Finch-Sunders MS; Iwan Roberts, Roads Policing Unit Inspector, NWP; Dylan Jones, Traffic and Network Manager, CCBC
Yn dilyn marwolaeth drasig dyn ifanc ym mis Hydref y llynedd, mae cyfres o fesurau diogelwch ar y ffyrdd bellach wedi'u cynllunio ar gyfer Ffordd Conwy, Llandudno.
Mae'r ymgyrch i wella diogelwch ar y ffyrdd wedi cael ei harwain gan Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd lleol, sydd wedi cyfarfod yn ddiweddar gydag aelodau Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y safle.
Yn y cyfarfod safle, cytunwyd y bydd:
- Ffordd Conwy yn gostwng o 40 mya i 30 mya ym mis Medi
- Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal arolygon cyflymder pellach unwaith y bydd y terfyn cyflymder newydd ar waith
- Bydd CBSC yn ymchwilio i addasiad i'r camera cyflymder radar sydd ar waith ar hyn o bryd fel ei fod yn dangos naill ai cyflymder gyda therfyn neu neges ddiogelwch unwaith y bydd y terfyn cyflymder yn cael ei dorri, yn hytrach na chyflymder gwirioneddol y gyrwyr.
- Mae CBSC yn gweithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru tuag at welliannau Teithio Llesol a fydd yn effeithio ar Ffordd Conwy.
Wrth sôn am y cynnydd sy'n cael ei wneud, dywedodd Janet:
"Mae'n wych clywed bod gwelliannau diogelwch priffyrdd mawr eu hangen yn cael eu gwneud.
"Er fy mod yn dal i gredu bod camera cyflymder yn hanfodol, rwy'n hyderus y bydd y rhestr o gamau rydw i wedi'u sicrhau hyd yma yn dal i gael effaith gadarnhaol.
"Gall trigolion fod yn dawel eu meddwl y byddaf yn parhau i fynd i’r afael â’r achos hwn hyd nes y bydd y briffordd yn well i'r holl ddefnyddwyr".
DIWEDD
Ffoto:
Janet Finch-Saunders AS; Iwan Roberts, Arolygydd Uned Plismona'r Ffyrdd, Heddlu Gogledd Cymru; Dylan Jones, Rheolwr Traffig a Rhwydwaith, CBSC