Heddiw, mae AS Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd – Janet Finch-Saunders AS – wedi defnyddio cyfarfod cyntaf Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (CCEI) y chweched Senedd i gael ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y bydd yn cyflwyno cynllun dychwelyd ernes.
Daw'r ymrwymiad diweddaraf hwn ar ôl i Janet sicrhau dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru erbyn yr hydref, gyda Llywodraeth Cymru yn cydweithio â phartneriaid y DU i sicrhau cynllun mor gydlynus â phosib. Hefyd, gofynnodd Janet am eglurder ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â defnyddio Bil y DU i ddeddfu ar yr Amgylchedd, er gwaethaf ymrwymiadau blaenorol i gyflwyno eu Bil Amgylchedd Cymru eu hunain yn ystod tymor y Senedd hon.
Wrth sôn am y cyfarfod, dywedodd Janet:
“Roeddwn yn falch iawn o fynychu ein cyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor CCEI, gan fy mod wedi edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr ag aelodau gwybodus eraill i ganolbwyntio ar y polisïau hynny sy'n mynd i'r afael â’r pwnc llosg sy’n diffinio ein hoes - argyfyngau natur a'r hinsawdd.
“Roedd hwn yn gyfarfod pwysig i graffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru, o ran Bil Amgylchedd y DU. Er bod y sesiwn hon wedi cyflwyno tipyn o eglurder strategol o ran cyflwyno polisi'r dyfodol, rwyf hefyd yn falch ein bod wedi gallu datrys ymrwymiadau pellach ar sut i fynd i'r afael â phla ein byd modern - gwastraff plastig.
“Fis Tachwedd diwethaf, roeddwn yn hynod falch o gyflwyno cynnig deddfwriaethol ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff yng Nghymru. Ar ôl cael addewid eisoes i gyflwyno mesurau yn yr hydref, roedd hi'n braf defnyddio cyfarfod heddiw i sicrhau y bydd y cynnig yn fesur cynhwysfawr.
“Wrth sgwrsio gyda chynhyrchwyr diodydd, cefais wybod bod y sector yn parhau i gefnogi'r syniad o gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes sydd wedi'i gynllunio'n dda ac nad yw'n peri dryswch i'r defnyddwyr. Bydd ymrwymo i gyflwyno cynllun cynhwysfawr ('all-in') yn helpu i warantu lefelau ymgysylltu uwch. Rwan, byddaf yn ceisio sicrhau bod pawb yn cadw'r addewid hwn fel bod y polisi'n parhau i gyd-fynd â'r uchelgais."
DIWEDD
Llun: gan tanvi sharma ar Unsplash