Speaking in the Senedd today, Janet supported the notion of Cwmni Egino looking to make the most of small modular reactors and associated technologies at Trawsfynydd but has raised significant concerns over the lack of progress being made around time tabling and delivery.
Speaking in the Senedd, Janet said:
“I’m excited to see that Wales could be the home of small modular reactors in the United Kingdom. However, despite Cwmni Egino being announced on 30 September 2020, practical milestone targets were not immediately set and we had to wait a further 18 months before a long term Chief Executive, Alan Raymant, was appointed.
“We have recently seen the UK Government introduce the Nuclear Energy (Financing) Act 2022, which can help with the financing of the project. What is needed now is for the Welsh Government to outline what financial incentives the Welsh Government and Cwmni Egino are considering making available to help ensure an SMR gets off the ground in Trawsfynydd.”
Janet adds further:
“I applaud the aim of making Trawsfynydd the first SMR site in the UK. In addition, I welcome the efforts of Rolls Royce led consortium to build its first small nuclear reactor factory in North Wales. Deeside is currently vying with Sunderland, Richmond, Ferrybridge in West Yorkshire, Stallingborough, and Lincolnshire for the factory which will bring an investment of up to £200m and create 200 direct jobs.
“I sincerely hope this in conjunction with Trawsfynydd will make North Wales a highly competitive highly skilled and green industrial market.”
Cymraeg:
Wrth siarad yn y Senedd heddiw, fe wnaeth Janet gefnogi syniad Cwmni Egino sy'n ceisio manteisio i'r eithaf ar adweithyddion modiwlaidd bach a thechnolegau cysylltiedig yn Nhrawsfynydd - ond cododd bryderon sylweddol dros ddiffyg cynnydd o ran yr amserlen a chyflawni'r cynllun.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Janet:
“Rwy'n edrych ymlaen at weld y posibilrwydd o Gymru'n dod yn gartref i adweithyddion modiwlaidd bach yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, er cyhoeddi Cwmni Egino ar 30 Medi 2020, ni osodwyd targedau carreg filltir ymarferol ar unwaith a bu'n rhaid aros 18 mis arall cyn penodi Prif Weithredwr hirdymor, Alan Raymant.
“Yn ddiweddar, gwelsom Lywodraeth y DU yn cyflwyno’r Ddeddf Nuclear Energy (Financing) Act 2022, a all helpu gydag ochr ariannu'r prosiect. Yr hyn sydd ei angen nawr yw i Lywodraeth Cymru amlinellu pa gymhellion ariannol y mae Llywodraeth Cymru a Chwmni Egino yn ystyried eu darparu er mwyn helpu i sicrhau bod adweithydd modiwlar bach yn dwyn ffrwyth yn Nhrawsfynydd."
Mae Janet yn ategu:
“Rwy'n cymeradwyo'r nod o wneud Trawsfynydd y safle adweithydd modiwlar bach cyntaf yn y DU. Yn ogystal, rwy'n croesawu ymdrechion y consortiwm dan arweiniad Rolls Royce i adeiladu ei ffatri adweithyddion niwclear bach gyntaf yma yn y Gogledd. Ar hyn o bryd mae Glannau Dyfrdwy yn cystadlu â Sunderland, Richmond, Ferrybridge yng Ngorllewin Swydd Efrog, Stallingborough, a Swydd Lincoln ar gyfer ffatri a fydd yn dod â buddsoddiad o hyd at £200m ac yn creu 200 o swyddi uniongyrchol.
“Rwy'n mawr obeithio y bydd hyn ar y cyd â Thrawsfynydd yn troi Gogledd Cymru yn farchnad ddiwydiannol hynod gystadleuol a gwyrdd gyda lefel uchel o sgiliau.”