The announcement from Tata Group that it will invest over £4 billion in a new UK gigafactory is a fantastic step towards our Net Zero targets.
The planned factory will provide almost half of the battery production needed by 2030, the deadline for the cease of sale of new petrol and diesel cars in the UK. This is a key step towards meeting this target.
Speaking as a long term Net Zero 2050 campaigner, Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, said:
“This is brilliant news, having this multi-billion pound car battery factory in the UK will improve the accessibility of electric vehicles to my constituents in Aberconwy.
“Electric vehicles play a key role in working towards our Net Zero targets, and bringing the production of the batteries to the UK is a huge step forward in preparation for the end of sale of new petrol and diesel cars by 2030.
“This UK gigafactory will be one of the largest in Europe, helping the UK to commit to a sustainable future and driving forward the lead in battery technology.
“I am happy to see this investment in the UK, and the future benefits it will bring my Aberconwy constituents.”
Mae'r cyhoeddiad gan Tata Group y bydd yn buddsoddi dros £4 biliwn mewn gigaffatri newydd yn y DU yn gam gwych tuag at ein targedau Sero Net.
Bydd y ffatri arfaethedig yn darparu bron i hanner y batris sydd angen eu cynhyrchu erbyn 2030, sef y terfyn amser ar gyfer peidio â gwerthu ceir petrol a diesel newydd yn y DU. Mae hwn yn gam allweddol tuag at gyrraedd y targed hwn.
Wrth siarad fel ymgyrchydd tymor hir dros Sero Net 2050, dywedodd Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy:
"Mae hyn yn newyddion gwych. Bydd cael y ffatri batris ceir gwerth biliynau o bunnoedd hon yn y DU yn ei gwneud yn haws i’m hetholwyr yn Aberconwy gael gafael ar gerbydau trydan.
"Mae cerbydau trydan yn chwarae rhan allweddol wrth weithio tuag at ein targedau Sero Net, ac mae dod â’r gwaith o gynhyrchu’r batris i'r DU yn gam enfawr ymlaen wrth baratoi ar gyfer rhoi’r gorau i werthu ceir petrol a diesel newydd erbyn 2030.
"Bydd y gigaffatri hon yn y DU yn un o'r rhai mwyaf yn Ewrop, gan helpu'r DU i ymrwymo i ddyfodol cynaliadwy a dangos y ffordd ymlaen o ran technoleg batris.
"Rwy'n hapus i weld y buddsoddiad hwn yn y DU, a'r manteision y bydd yn dod i’m hetholwyr yn Aberconwy yn y dyfodol."